Adrodd Corfforaethol

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r rheolydd annibynnol dros gydraddoldeb, hawliau dynol a pherthynas dda ym Mhrydain. Rydym yn gorff statudol wedi’i sefydlu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006, ac Adran y Llywodraeth dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n ein noddi.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

Mae’r Comisiwn yn cyhoeddi adroddiad blynyddol a chyfrifon i bob blwyddyn busnes. Mae hyn yn ofynnol fel corff a ariennir gan y cyhoedd, ond mae hefyd yn gerbyd da i ddangos sut rydym wedi ateb ein hamcanion strategol a thargedau ein cynllun busnes yn y flwyddyn honno.

Tryloywder y Llywodraeth

Mae Llywodraeth y Glymblaid wedi ymrwymo yn benodol i gyhoeddi manylion ar sut mae adrannau’r Llywodraeth a’r asiantaethau maent yn eu noddi yn defnyddio arian cyhoeddus er mwyn cynyddu tryloywder. Mae hyn yn cynnwys gwariant, y tendrau a’r contractau a wobrwywyd a chyflogau. Gofynnir i adrannau gyhoeddi’u gwybodaeth gwariant gan gymryd ymagwedd gyson o ran amseru, fformat a chynnwys, ac felly rydym yn dilyn y canllaw sydd ar wefan Trysorlys EM a chyhoeddi’r gwybodaeth ar y cyd â’n hadran noddi, Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth.

Adroddiadau eraill

Cynllun Cydraddoldeb

Rydym yn cynhyrchu nifer o adroddiadau a dogfennau sy’n ymwneud â gweithredu ein Cynllun Cydraddoldeb.

Cynllun Gweithredu Amgylcheddol

Ymatebion ymgynghori

Byddwn yn ymateb i ymgynghoriadau ar feysydd polisi sy’n berthnasol i’n cylch gwaith - cyhoeddir yr ymatebion o dan Cyfraith a Pholisi

Adroddiadau a chyhoeddiadau allweddol

Byddwn yn cyhoeddi nifer fawr o adroddiadau yn sgil y gwaith a wnawn, gan gynnwys adroddiadau ymchwil, ymchwiliadau a pholisi. Ceir y rhain yn Cyhoeddiadau.

Last Updated: 19 Meh 2015