Dyletswydd y cyflogwr i wneud addasiadau rhesymol i chwalu rhwystrau i bobl anabl

Mae'r gyfraith cydraddoldeb yn cydnabod y gall sicrhau cydraddoldeb i bobl anabl olygu bod angen newid strwythur y gyflogaeth, chwalu rhwystrau a/neu ddarparu cymorth ychwanegol i weithiwr anabl neu ymgeisydd am swydd.

Dyma'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol.

Mae'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn ceisio sicrhau bod gweithiwr anabl yn cael yr un mynediad, cyn belled ag y bo'n rhesymol, i bopeth sy'n ymwneud â gwneud swydd â gweithiwr nad yw'n anabl.

Pan fydd y ddyletswydd yn codi, mae dyletswydd gadarnhaol a rhagweithiol ar eich cyflogwr i gymryd camau i chwalu neu atal y rhwystrau rydych yn eu hwynebu fel gweithiwr anabl neu ymgeisydd am swydd.

Rhaid i'r cyflogwr ond wneud addasiadau pan fydd yn ymwybodol – neu pan ddylai fod yn ymwybodol – bod anabledd gennych.

Ni fydd llawer o'r addasiadau y bydd angen i'ch cyflogwr eu gwneud yn ddrud iawn, ac nid yw'n ofynnol iddynt wneud mwy na'r hyn sy'n rhesymol. Mae'r hyn sy'n rhesymol yn dibynnu ar faint a natur sefydliad eich cyflogwr, ymhlith ffactorau eraill.

Fodd bynnag, os,

  • ydych yn weithiwr anabl, ac
  • y gallwch ddangos bod yna rhwystrau y dylai eich cyflogwr fod wedi'u nodi a bod addasiadau rhesymol y gallai eich cyflogwr fod wedi'u gwneud, ac
  • nad yw eich cyflogwr wedi gwneud dim,

gallwch ddwyn achos yn erbyn eich cyflogwr mewn Tribiwnlys Cyflogaeth, a bydd rhaid i'ch cyflogwr dalu iawndal i chi yn ogystal â gwneud yr addasiadau rhesymol. Gallai methu â gwneud addasiadau rhesymol gyfrif fel gwahaniaethu anghyfreithlon. Gallwch ddarllen rhagor am yr hyn y dylech ei wneud os credwch eich bod wedi ddioddef gwahaniaethu.

Yn benodol, os ydych yn anabl, ni ddylai'r angen i wneud addasiadau i chi fel gweithiwr neu ymgeisydd am swydd:

  • fod yn rheswm dros beidio â rhoi dyrchafiad i chi os mai chi yw'r unigolyn gorau ar gyfer y swydd gyda'r addasiadau ar waith
  • fod yn rheswm i'ch diswyddo
  • beidio â chael ei ystyried mewn perthynas â phob agwedd ar eich swydd

a chymryd bod yr addasiadau yn rhesymol i'ch cyflogwr eu gwneud.

Bydd llawer o ffactorau ynghlwm wrth benderfynu pa addasiadau y dylid eu gwneud, a byddant yn dibynnu ar amgylchiadau unigol. Bydd angen newidiadau gwahanol ar bobl wahanol, hyd yn oes os yw'n ymddangos bod ganddynt namau tebyg.

Byddai'n ddoeth i'ch cyflogwr drafod yr addasiadau gyda chi, neu mae'n bosibl na fydd yr addasiadau’n effeithiol.

Mae gweddill yr adran hon yn edrych ar fanylion y ddyletswydd ac mae'n rhoi enghreifftiau o'r math o addasiadau y gallai eich cyflogwr eu gwneud. Mae'n ystyried:

Pa bobl anabl y mae'r ddyletswydd yn berthnasol iddynt?

Sut gall eich cyflogwr ganfod a ydych yn anabl?

Tri gofyniad y ddyletswydd

Ydych chi o dan anfantais sylweddol fel person anabl yn eich sefyllfa waith?

Newidiadau i bolisïau a'r ffordd y mae sefydliad yn gweithredu fel arfer

Delio â rhwystrau ffisegol

Darparu offer neu gymhorthion ychwanegol

Sicrhau bod addasiad yn effeithiol

Pwy sy'n talu am addasiadau rhesymol?

Beth a olygir wrth 'rhesymol'?

Addasiadau rhesymol ar waith

Sefyllfaoedd penodol

Rhagor o wybodaeth

Last Updated: 24 Hyd 2014