Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb

Gwasanaeth annibynnol yw’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) a’i ddiben yw rhoi cyngor rhad ac am ddim, gwybodaeth ac arweiniad i unigolion ar gydraddoldeb, gwahaniaethu a materion hawliau dynol.

Mae’r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998. Fe’i cynlluniwyd i helpu cleientiaid i wneud penderfyniadau a chymryd camau priodol i ddatrys eu problemau yn anffurfiol. Fe wna hyn drwy gynghori cleientiaid ynghylch eu hopsiynau a’u cefnogi drwy’r broses. Fodd bynnag, os bydd y cleient yn penderfynu cymryd camau ffurfiol (e.e. achosion cyfreithiol neu ddatrysiad amgenach ffurfiol arall), ni all y gwasanaeth gynrychioli’r unigolyn neu gynghori ar deilyngdod eu hachosion. Nid yw’r wybodaeth a chymorth a ddarperir gan y gwasanaeth yn gyffelyb i gyngor cyfreithiol, a dylid ei ddarparu gan gyfreithwyr yn unig a chymwysterau proffesiynol ganddynt, neu o dan eu goruchwyliaeth. Mae’r gwasanaeth yn argymell y dylech ymgynghori â chyfreithiwr os ydych am gyngor cyfreithiol, yn dymuno cymryd camau cyfreithiol ffurfiol neu am gyngor dros deilyngdod eich achos.

Gellir cysylltu â’r EASS ar radffôn 0808 800 0082 neu drwy eu gwefan

www.equalityadvisoryservice.com

lle gallwch ddefnyddio eu ‘live web chat’ neu e-bost. Os ydych yn fyddar neu mae gennych nam ar eich clyw cysylltwch â RAD drwy eu portal ‘webcam’ at

//www.royaldeaf.org.uk/webcam neu drwy ffôn testun ar 0808 800 0084. Gallwch hefyd ddarganfod EASS ar ‘facebook’:

www.facebook.com/EqualityAdvisorySupport

neu eu dilyn ar ‘twitter’: twitter.com/EASShelpline

Cysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

Y rhifau cyswllt i’r gwasanaeth newydd yw:

Ffôn: 0808 800 0082

Ffôn Testun: 0808 800 0084

Oriau agor:

09:00 i 20:00 Dydd Llun i ddydd Gwener

10:00 i 14:00 Dydd Sadwrn

Ar gau ddydd Sul a Gwyliau’r Banc

Drwy’r post: FREEPOST Equality Advisory Support Service FPN4431

Last Updated: 03 Maw 2014