Gorfodi

Cyflwyniad

Un o rolau allweddol y Comisiwn fel rheolydd modern yw defnyddio ein pwerau gorfodi. Rhoddwyd y pwerau hyn i’r Comisiwn gan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Mae’r adran hon yn eich cyfeirio at agweddau gwahanol ein gwaith gorfodi. Am ragor o wybodaeth, lawr lwythwch ein Polisi Gorfodi a Chydymffurfio. Gallwch hefyd ganfod am ein gwaith gorfodi yn ein ‘Diweddariad diweddaraf ar Orfodi Cyfreithiol’.

Ein pwerau gorfodi

Mae’r Comisiwn yn hynod effeithiol wrth ddatrys achosion yn eu dyddiau cynnar a heb yr angen am gamau gorfodi ffurfiol. Mae tua 80% o achosion (oddeutu 99 ar hyn o bryd) wedi’u datrys yn y modd hwn. Fodd bynnag, ni wnawn oedi rhag galw ein pwerau gorfodi ffurfiol i rym pan fo’n angenrheidiol.

Ymchwiliadau

Gall y Comisiwn gynnal ymchwiliad i unrhyw fater sy’n ymwneud ag adrannau 8, 9 neu 10 y Ddeddf Cydraddoldeb, sef cydraddoldeb ac amrywiaeth, hawliau dynol neu berthynas dda rhwng grwpiau. Nid oes angen unrhyw safon benodol o dystiolaeth i sbarduno ymchwiliad. Nid oes angen i’r Comisiwn amau bod deddfwriaethau cydraddoldeb neu hawliau dynol wedi’u torri i lansio ymchwiliad. Am fanylion o’n Ymchwiliadau ffurfiol:

Asesiadau

Defnyddir asesiadau i brofi cydymffurfiaeth â dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus ac maent yn galluogi’r Comisiwn i archwilio cydymffurfiaeth gan awdurdodau cyhoeddus penodol â dyletswyddau cydraddoldeb penodol a chyffredinol y sector cyhoeddus o ran hil, anabledd neu rywedd. Gellir defnyddio asesiadau i gael tystiolaeth ar gyfer camau gorfodi pellach i sicrhau cydymffurfiaeth, yn ogystal â nodi meysydd o arfer da ym mherfformiad y dyletswyddau.

Rydym wedi ymgymryd ag asesiad dyletswydd y sector cyhoeddus i'r Adran Waith a Phensiynau, twy'r Jobcentre Plus

Archwiliadau

Pwrpas archwiliad yw sefydlu a yw person neu sefydliad wedi mynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Gall y Comisiwn ymgymryd ag archwiliad pan fo ganddo dystiolaeth i amau bod cam anghyfreithlon efallai wedi’i gyflawni.

Ar ddiwedd yr Archwiliad bydd y Comisiwn yn cyhoeddi adroddiad o’i gasgliadau a all gynnwys argymhellion. Os canfu fod cam anghyfreithlon wedi’i gyflawni gall hefyd gyflwyno hysbysiad cam anghyfreithlon. Mae gan y person sy’n cael ei archwilio yr hawl i wneud cynrychiolaethau gan gynnwys cylch gorchwyl yr archwiliad ac adroddiad drafft casgliadau’r Comisiwn. Gall y Comisiwn hefyd gynnal archwiliad i ai a yw person wedi cydymffurfio â hysbysiad cam anghyfreithlon neu gymryd y camau y cytunwyd arnynt o dan gytundeb ffurfiol.

Hysbysiad Cam Anghyfreithlon

Os canfu archwiliad fod person wedi cyflawni cam anghyfreithlon gall y Comisiwn gyflwyno hysbysiad cam anghyfreithlon iddo. Bydd yr hysbysiad yn amlinellu’r cam anghyfreithlon a gall ofyn i’r person lunio cynllun gweithredu i’w atal rhag parhau neu ddigwydd eto. Gall y Comisiwn argymell camau i’w cymryd i’r diben hwnnw.

Cytundebau

Gall y Comisiwn wneud cytundeb ffurfiol â pherson sydd, yn ei dyb ef, wedi torri’r gyfraith. Bydd hyn yn golygu rhoi cynllun gweithredu ar waith. Mewn llawer o sefyllfaoedd caiff cytundeb ei wneud i arbed rhag defnyddio camau gorfodi ffurfiol eraill. Gellir gwneud cytundeb hyd yn oed pan na fu'r un ymchwiliad ffurfiol. Ni chyfrifir gwneud cytundeb i roi cynllun gweithredu ar waith fel cyfaddef bod cam anghyfreithiol wedi’i gymryd.

Fel arall, gall y Comisiwn atal archwiliad ar sail cytundeb adran 23 na fyddwn yn archwilio neu’n cyflwyno hysbysiad o dorri’r gyfraith ar yr amod bod y parti arall yn ymgymryd i beidio â mynd yn groes i’r gyfraith ac y bydd yn cymryd camau penodol.

Unwaith fo’r cytundeb a’r cynllun gweithredu yn eu lle, bydd y Comisiwn yn cysylltu’n rheolaidd â’r sefydliad a bydd yn gofyn iddo adrodd yn rheolaidd ar ei gynnydd. Yn ystod cam monitro cytundeb, rydym yn aml yn adeiladu perthynas weithio agos â’r sefydliad dan sylw, gan feithrin cryn dipyn o gydweithredu ac ewyllys da, ac yn ei sgil daw rhai o’r sefydliadau hynny mewn rhai achosion yn hyrwyddwyr arfer da ym maes cydraddoldeb ac yn eiriolwyr dros waith y Comisiwn.

Fodd bynnag, os oes methiant i gydymffurfio ag ymgymeriad yn y cytundeb neu mae cydymffurfiaeth yn ein tyb ni yn annhebygol, gall y Comisiwn gymryd camau pellach drwy’r llysoedd.

Gweler hefyd: 'Commission signs agreement with the Priory Group'

Hysbysiad cydymffurfio

Pan fo’r Comisiwn yn meddwl nad yw awdurdod cyhoeddus wedi cydymffurfio â dyletswydd y sector cyhoeddus, mae gennym y pŵer i gyflwyno hysbysiad cydymffurfio ger ei fron. Gall yr hysbysiad ofyn am gydymffurfiaeth â’r ddyletswydd neu ddarparu cyfle i’r cynnig ysgrifenedig ddangos y camau a gymerir i sicrhau cydymffurfiaeth. Rhaid cyflwyno’r wybodaeth ysgrifenedig hon i’r Comisiwn o fewn 28 diwrnod o gael yr hysbysiad cydymffurfio.

Gall hysbysiad hefyd ofyn am wybodaeth bellach i’r Comisiwn er dibenion asesu cydymffurfiaeth.

Mae’n rhaid i berson sy’n cael hysbysiad cydymffurfio gydymffurfio ag ef. Yn sgil methiant i gydymffurfio gall y Comisiwn wneud cais i’r llys perthnasol am orchymyn sy’n gwneud cydymffurfiaeth yn ofynnol. Mae methu â chydymffurfio â gorchymyn llys yn drosedd.

Astudiaethau achos gorfodi cyfreithiol

Er mwyn egluro ein gwaith gorfodi rydym wedi llunio crynodeb o enghreifftiau o gamau gorfodi yr ydym wedi’u cymryd er Hydref 2007.

Last Updated: 03 Tach 2014