Y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol er mwyn cael gwared â rhwystrau i bobl anabl

Cŵn cymorth – canllaw ar gyfer pob busnes (newydd, Mehefin 2013)

Lluniwyd y canllaw a ganlyn i helpu busnesau i ddeall beth y gallant ei wneud i gydymffurfio â’u dyletswyddau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac i annog busnesau i groesawu cŵn cymorth cofrestredig wrth iddynt ddod i mewn i’w hadeiladau gyda’u perchnogion anabl.

Cover image of assistance dog guide

Lawr lwytho'r canllaw


Mae cyfraith cydraddoldeb yn cydnabod y gallai sicrhau cydraddoldeb i bobl anabl olygu newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, darparu offer ychwanegol a/neu gael gwared ar rwystrau ffisegol.

Dyma’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol.

Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn anelu at sicrhau y gall unigolyn anabl ddefnyddio gwasanaethau mor agos ag y mae’n rhesymol bosibl i gyrraedd y safon a gynigir i bobl nad ydynt yn anabl.

Pan fydd y ddyletswydd yn codi, mae gennych ddyletswydd bositif a rhagweithiol i gymryd camau i gael gwared ar y rhwystrau hyn.

Os ydych yn darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd, neu’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, neu’n rhedeg cymdeithas ac yn gweld fod rhwystrau i bobl anabl yn y modd yr ydych yn gwneud pethau, mae’n rhaid i chi ystyried gwneud addasiadau (mewn geiriau eraill, newidiadau). Os yw’r addasiadau hynny’n rhesymol i chi a’ch sefydliad eu gwneud, mae’n rhaid i chi eu gwneud.

Mae’r ddyletswydd yn ‘ddisgwylgar’. Golyga hyn na allwch aros nes y bydd rhywun anabl eisiau defnyddio’ch gwasanaethau, ond rhaid i chi feddwl o flaen llaw (ac yn barhaus) am beth fyddai’n rhesymol i bobl anabl a chanddynt ystod o ddiffygion fod eu hangen, megis pobl sydd â nam ar eu golwg, nam ar eu clyw, problemau mudoledd neu anabledd dysgu.

Ni fydd nifer o’r addasiadau y gallwch eu gwneud yn arbennig o ddrud, ac nid oes rhaid i chi wneud mwy nac sy’n rhesymol i chi’i wneud. Mae’r hyn sy’n rhesymol i chi ei wneud yn dibynnu, ymhlith ffactorau eraill, ar faint a natur eich sefydliad, ac ar natur y nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yr ydych yn eu darparu.

Fodd bynnag, os gall unigolyn anabl ddangos bod rhwystrau y dylech fod wedi’u nodi ac addasiadau rhesymol y gallech fod wedi’u gwneud, gallant gyflwyno hawliad yn eich erbyn mewn llys, ac efallai y byddwch yn cael eich gorfodi i dalu iawndal a gwneud yr addasiadau rhesymol.

Yn ogystal â bod yn rhywbeth y mae’n ofynnol i chi’i wneud dan gyfraith cydraddoldeb, bydd gwneud addasiadau rhesymol yn helpu ystod ehangach o bobl i ddefnyddio’ch gwasanaethau.

Wedi i chi wneud addasiad rhesymol, peidiwch ag anghofio rhoi gwybod i bobl amdano. Er enghraifft, rhowch arwydd i fyny yn eich eiddo, cynhwyswch ef yn yr wybodaeth y byddwch yn ei chyhoeddi (sicrhewch eich bod yn darparu fformatau amgen os yn briodol) a’i roi ar eich gwefan. Mae hyn nid yn unig am y bydd yn denu mwy o gwsmeriaid; mae’n rhan hanfodol o fodloni’r ddyletswydd. Os nad yw’r addasiad yn rhesymol amlwg i bobl anabl, efallai y byddant yn dal i feddwl na allant ddefnyddio eich gwasanaethau ac mewn rhai amgylchiadau fe allai hyn olygu nad ydych wedi bodloni’ch dyletswydd.

Er enghraifft:

Mae maes awyr yn darparu trosglwyddiad mewn bygi electronig rhwng y ddesg gofrestru a’r giatiau ar gyfer teithwyr a chanddynt broblemau mudoledd. Mae arwyddion amlwg wrth y fynedfa i’r neuaddau cyrraedd a gadael ac wrth y ddesg gofrestru yn cynorthwyo teithwyr anabl i gael mynediad at y gwasanaeth. Os na osodir yr hysbysiadau yn eu lle, ac os na fydd neb yn rhoi gwybod i deithwyr anabl sydd eu hangen eu bod yn bodoli, ni fyddai’r addasiad yn effeithiol. Ni fyddai’r ffaith eu bod yn bresennol yn y maes awyr ynddo’i hun yn bodloni’r ddyletswydd os na fyddai’r bobl anabl sydd eu hangen yn ymwybodol eu bod ar gael.

Mae gweddill yr adran hon yn edrych ar y ddyletswydd yn fanylach ac yn rhoi enghreifftiau o’r mathau o addasiadau y gallai sefydliadau eu gwneud. Mae’n edrych ar:

Last Updated: 28 Awst 2014