Cytundeb ffurfiol gyda Travelodge

Travelodge a’r Comisiwn yn cytuno ar ffyrdd i helpu codi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Travelodge ar y cyd wedi nodi ffyrdd i hybu ymwybyddiaeth o amrywiaeth a chydraddoldeb ymhellach ymhlith 10,000 o gyflogeion Travelodge.

Mae gan y Cwmni fwy na 500 o westai yn y DU. Cysylltodd y Comisiwn â’r cwmni ar ôl i Dribiwnlys Cyflogaeth ddyfarnu yn ei erbyn yn 2013 am fynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae Travelodge wedi cymryd camau, ac mae’n parhau i gymryd camau, i sicrhau na fydd materion o’r fath yn digwydd eto. Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno hyfforddiant penodol yn raddol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth i’w sefydliad drwyddi draw, a rhaglen o weithgareddau wedi’u cynllunio i ddathlu a hybu derbyniad o weithlu amrywiol.

Mae Travelodge a’r Comisiwn wedi arwyddo cytundeb ffurfiol a byddant yn gweithio gyda’i gilydd dros y 12 mis nesaf i adolygu llwyddiant y camau a gymerwyd. Bydd Travelodge, hefyd, yn hysbysu eu cyflogeion am y gwaith y mae’n ei wneud gyda’r Comisiwn o dan A23 Deddf Cydraddoldeb 2006 drwy ei fforwm llywodraethu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a sianeli cyfathrebu mewnol.

Last Updated: 10 Rhag 2015