Nodweddion gwarchodedig

Drwyddi draw, yn y canllawiau, cyfeirir at ‘nodweddion gwarchodedig’. Mae rhagor o wybodaeth ar y dudalen hon ar bob un o’r naw nodwedd warchodedig.

Oed

Pan gyfeirir at hwn, unigolyn sy’n perthyn i oed penodol (e.e. 32 mlwydd oed) neu ystod o oedrannau (e.e. 18 – 30 mlwydd oed ) a gyfeirir ato.

Anabledd

Mae anabledd gan unigolyn os oes nam meddyliol neu gorfforol arno sydd ag effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu’r unigolyn hwnnw i ymgymryd â gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Ailbennu rhyw

Y broses o newid o un ryw i’r llall.

Priodas a phartneriaeth sifil

Yng Nghymru a Lloegr, ni chaiff priodas ei chyfyngu bellach i uniad rhwng dyn a menyw. Mae’n cynnwys uniad rhwng cyplau o’r un ryw hefyd. Bydd hyn yn wir yn yr Alban hefyd pan ddaw’r ddeddfwriaeth berthnasol i rym.
Yn gyfreithiol, gellir cydnabod perthnasau rhwng cyplau o’r un ryw fel ‘partneriaethau sifil’. Rhaid peidio â thrin partneriaid sifil yn llai ffafriol na chyplau priod (ac eithrio pan gaiff ei ganiatáu gan y Ddeddf Cydraddoldeb).

Deddf Priodas (Cyplau o'r un ryw) 2013

Beichiogrwydd a mamolaeth

Cyflwr o fod yn feichiog neu’n disgwyl babi yw beichiogrwydd. Cyfeiria mamolaeth at gyfnod ar ôl y geni, a chysylltir ef ag absenoldeb mamolaeth, yng nghyd-destun cyflogaeth. Pan nad yw yng nghyd-destun gwaith, mae diogelwch rhag gwahaniaethu ar sail mamolaeth yn ymwneud â’r 26 wythnos ar ôl y geni, ac mae hyn yn cynnwys ymdrin â menyw yn anffafriol oherwydd ei bod yn bwydo ar y fron.

Hil

Yn cyfeirio at y nodwedd o Hil, a warchodir. Cyfeiria at grŵp o bobl a ddiffinnir gan eu hil, lliw a chenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth) a gwreiddiau cenedlaethol neu ethnig.

Crefydd a chredo

Ystyrir crefydd yn ôl ei ystyr arferol ond cynhwysa chredo gredoau crefyddol ac athronyddol, gan gynnwys diffyg cred (e.e. Anffyddiaeth). Yn gyffredinol, nid yw credo’n perthyn i’r diffiniad hwn os nad yw wedi effeithio ar eich ffordd o fyw neu’r penderfyniadau a wnaethoch.

Rhyw

Dyn neu fenyw.

Cyfeiriadedd rhywiol

Pa un ai yw atyniad rhywiol unigolyn tuag at ei ryw ei hunan, y rhyw arall neu’r ddau ryw.

Last Updated: 09 Gorff 2014