Ein gwaith cyfreithiol ar waith

Y Comisiwn yw’r arbenigwr cenedlaethol ym maes cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol a defnyddiwn ein pwerau cyfreithiol i ddiogelu pobl rhag gwahaniaethu, a chynnal gwerthoedd tegwch, urddas a pharch – gan wella bywydau miliynau o bobl.

Dros yr wyth mlynedd olaf rydym wedi cynorthwyo neu ymyrryd mewn mwy na 300 o achosion o bwysigrwydd cenedlaethol.

Canfyddwch fwy am ein gwaith cyfreithiol.

Mae ein camau cyn gorfodi wedi helpu dros 1,000 o unigolion a sefydliadau. Mae gwaith ymyrryd cynnar o’r math hwn yn golygu y gallwn ddiogelu pobl a’u hawliau heb gyrchu achosion llys.

Canfyddwch fwy am ein gwaith cyn gorfodi.

Ers 2011, rydym wedi dal y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill i gyfrif mewn mwy na 70 o achosion.

Mae ein rôl fel rheolydd strategol yn golygu ein bod yn canolbwyntio ein hadnoddau ar achosion sydd yn cael effaith ehangach fwy wrth hyrwyddo hawliau dynol a meithrin cymdeithas decach.

Mae mwy o fanylion ar hyn yn ein polisi cyfreitha.

Ers Ebrill 2013, buom yn llwyddiannus mewn dau draean o’r achosion yr ydym wedi eu cymryd*. O ganlyniad i’n hymagwedd strategol rydym yn aml yn cymryd achosion sy’n archwilio ffiniau cyfraith gydraddoldeb a hawliau dynol neu ddelio â materion newydd pan fo’r canlyniadau’n ansicr. Hyd yn oed pan na chyflawnir ein nod mewn achos, gall y canlyniad fod yn hynod o ddefnyddiol. Gallai egluro’r gyfraith i eraill neu amlygu bylchau o ran diogelu y gallwn wedyn fynd i’r afael â nhw drwy foddau eraill.

Canfyddwch fwy am ein pwerau gorfodi.

Yr hawliau rydym wedi eu diogelu – 10 achos sydd wedi newid Prydain

Yn yr wyth mlynedd ddiwethaf rydym wedi cynorthwyo neu ymyrryd mewn achosion cyfreithiol arwyddocaol i ddiogelu amrywiaeth o grwpiau.

Dyma 10 o’r achosion mwyaf pwysig rydym wedi ymwneud â nhw:

1. Hurley ac Eraill v Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau [2015]

O dan y Cap Buddion mae’r Llywodraeth wedi gosod terfyn ar swm y taliadau y gellir talu i ystod o bobl. Roedd gofalwyr ar y dechrau nad oedd yn cael tâl am ofalu am aelodau teuluol yn ddarostyngedig i’r Cap hwn. Byddai’r gostyngiad hwn o ran incwm yn peryglu gallu’r rhai a gafodd eu heffeithio i barhau i ofalu am eu perthnasau, a byddai colli gofalwr a ymddiriedwyd ynddo yn aruthrol i berson anabl. Gwnaethom ymyrryd drwy gyflwyno wrth yr Uchel Lys fod, o ganlyniad, hawliau dynol gofalwyr wedi’u torri. Ategodd y Llys ein cyflwyniad ac rydym yn disgwyl ymateb y Llywodraeth i’r dyfarniad hwn.

2. R (J) v Cyngor Sirol Swydd Gaerwrangon [2013]

Gwnaethom ymyrryd yn yr achos hwn i helpu pennu lefel cyfrifoldeb awdurdodau lleol i blant Teithwyr. Cadarnhaodd yr Uchel Lys fod Cyngor Sirol Swydd Gaerwrangon yn gyfrifol am gefnogi Plentyn J hyd yn oed pan mae y tu allan i ranbarth yr awdurdod. Mae’r dyfarniad pwysig hwn yn golygu y gall J, a phob plentyn Teithwyr, barhau gyda’u ffordd draddodiadol o fyw heb orfod colli gwasanaethau hanfodol megis gofal iechyd ac addysg.

3. Preddy a Hall v Bull a Bull [2013]

Gwrthododd Hazelmary a Peter Bull i adael cymheiriaid sifil, Steven Preddy a Martyn Hall i aros mewn ystafell ddwbl yn eu llety gwely a brecwast yng Nghernyw, ar sail eu credoau Cristnogol cryf. Dyfarnodd y Llys Sirol fod hyn yn wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol. Camodd y Comisiwn i’r adwy i gefnogi Mr Preddy a Mr Hall, pan apeliodd y Bulls at y Goruchaf Lys, i sicrhau bod y Ddeddf Cydraddoldeb a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn cael eu cymhwyso’n gywir. Cafodd yr apêl ei hamddiffyn yn llwyddiannus a dyfarnodd y Llys nad oedd credoau crefyddol y Bulls yn rhoi hawl iddynt wahaniaethu yn erbyn cymheiriaid sifil. Ategodd y gall hawl dinasyddion i arddel eu crefydd fod yn gyfyngedig pan fo’n angenrheidiol i ddiogelu hawliau pobl arall. Roedd hwn yn achos prawf pwysig i’r Comisiwn wrth gadarnhau’r diogelwch yn erbyn gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol o ran darpariaethau gwasanaethau.

4. Susan Smith ac Eraill v y Weinyddiaeth Amddiffyn [2013]

Cafodd y milwr cyffredin Philip Hewett ei ladd ar batrôl yn Iraq pan gafodd ei Snatch Land Rover ei daro gan declyn ffrwydrol byrfyfyr. Mae ei fam, Susan Smith, yn honni mai canlyniad methiant y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddarparu offer arfog priodol i filwyr yn gwasanaethu yn Iraq oedd ei farwolaeth. Byddai hyn yn mynd yn groes i’w rhwymedigaeth i ddiogelu hawl y milwr Hewett i fywyd, sydd wedi’i hymgorffori yn Erthygl 2 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Ymyrodd y Comisiwn yn y Goruchaf Lys i bennu a oedd diogelwch hawliau dynol yn ymestyn i filwyr a'u canolfan y tu allan i'r DU. Dyfarnodd y Llys fod milwyr Prydeinig sy’n cael eu lladd wrth wasanaethu yn Iraq yn dal o dan awdurdodaeth y DU ac felly fod hawl ganddynt i ddiogelwch hawliau dynol sy’n rhesymol ac heb darfu ar eu gofynion gwasanaethu.

5. Allen v the Royal Bank of Scotland [2010]

Roedd David Allen wedi bancio yng nghangen Church Street y Royal Bank of Scotland (RBS) yn Sheffield ers iddo fod yn yr ysgol gynradd. Fodd bynnag, pan ddechreuodd ddefnyddio cadair olwyn, canfu na allai gael mynediad i’r gangen ac roedd rhaid iddo gynnal ei fancio ar y stryd. Law yn llaw â Chanolfan Cyfraith Sheffield, ymgymerodd y Comisiwn â’r achos a defnyddio’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd i brofi bod Mr Allen wedi dioddef gwahaniaethu. Dyfarnodd y barnwr o blaid David a gorchymyn RBS i osod rampau, yn ogystal â thalu rhywfaint o iawndal i David. Apeliodd RBS hyn yr holl ffordd i’r Goruchaf Lys ond buont yn aflwyddiannus. Mae hwn yn achos pwysig gan ei fod yn darparu canllaw defnyddiol i lysoedd sy’n wynebu hawliadau gan bobl anabl eraill yn ceisio gorfodi’u hawliau.

6. Eweida v British Airways [2010]

Roedd Ms Eweida yn gweithio i British Airways (BA) fel clerc cofnodi paciau, ac fel Cristion defosiynol penderfynodd ddechrau gwisgo croes ar gadwyn o amgylch ei gwddf ym mis Mai 2006. Roedd hyn yn mynd yn groes i bolisi iwnifform y BA a chafodd Ms Eweida ei hatal rhag gweithio pan wrthododd i beidio â gwisgo’r gadwyn yn y gweithle am resymau crefyddol. Fodd bynnag, ym mis Chwefror 2007 newidiodd BA ei bolisi i ganiatáu dangos symbolau crefyddol ac elusennol a chafodd staff eu caniatáu i wisgo eitemau fel y groes a Seren Dafydd. Dychwelodd Ms Eweida i’w gwaith ond gwrthododd BA i dalu iawndal iddi am enillion coll yn ystod y cyfnod pan gafodd ei hatal rhag gweithio. Pan gyrhaeddodd yr achos hwn Llys Hawliau Dynol Ewrop, ymyrrodd y Comisiwn gan ofyn am eglurhad ynghylch maint diogelwch rhyddid crefyddol o ran cyfraith ddomestig. Dyfarnodd y Llys Ewropeaidd fod hawliau dynol Ms Eweida wedi’u torri.

Ar ôl yr achos hwn ac achosion cysylltiedig gwnaeth y Comisiwn lunio canllaw i gyflogeion a chyflogwyr i wneud eu hawliau a’u cyfrifoldebau’n fwy eglur ac osgoi cyfreitha costus.

7. ac 8. Homer v Prif Gwnstabl Heddlu Gorllewin Swydd Efrog [2012] a Seldon v Clarkson, Wright a Jakes [2012]

Yn yr achos cyntaf, roedd Mr Homer wedi gweithio i Gronfa Ddata Cyfreithiol Cenedlaethol yr Heddlu fel cynghorydd cyfreithiol, ac nid oedd gofyn iddo fod â Gradd Cyfraith pan benodwyd ef i’r swydd. Fodd bynnag, yn 2005, cafodd strwythur graddio newydd ei gyflwyno ac i gyrraedd brig y raddfa (ar yr hyn yr oedd Mr Homer eisioes yn gweithredu) roedd gofyn am y cymhwyster hwn. Gwrthododd Mr Homer i astudio am bedair blynedd tuag at hyn pan roedd ar fin ymddeol mewn tair blynedd pan fyddai’n 65 oed. Ymyrrodd y Comisiwn yn yr achos hwn a dyfarnodd y Goruchaf Lys ei fod wedi dioddef gwahaniaethu anuniongyrchol, gan atgyfeirio’r achos at dribiwnlys cyflogaeth a gofyn iddynt ail ystyried y cyfiawnhad a roddwyd gan Heddlu Gorllewin Swydd Efrog dros y gofyniad newydd hwn.

Yn yr ail achos, cafodd Mr Seldon ei orfodi i ymddeol fel partner yn y cwmni cyfreithiol Clarkson, Wright a Jakes, gan ei fod wedi cyrraedd eu hoed ymddeol gorfodol o 65. Cefnogodd y Comisiwn yr achos hwn ac, er i’r Goruchaf Lys dderbyn bod gan gwmni Mr Seldon rai rhesymau dilys dros yr oed ymddeol gorfodol i bartneriaid, gofynnom i dribiwnlys cyflogaeth ystyried a oedd gorfodi partner i ymddeol ar ôl ei ben-blwydd yn 65 oed yn briodol ac yn angenrheidiol.

Y ddau achos hyn oedd y dyfarniadau cyntaf gan y Goruchaf Lys ynglŷn â gwahaniaethu ar sail oedran, a chwaraeodd y Comisiwn ran bwysig wrth atgoffa cyflogwyr o’u cyfrifoldebau a gwneud y gyfraith yn eglurach.

9. Coleman v Attridge Law [2008]

Haerodd Sharon Coleman ei bod wedi dioddef gwahaniaethu ac aflonyddu gan ei chyflogwr yn ei rôl fel ysgrifennydd cyfreithiol yn Attridge Law LLP oherwydd anabledd ei mab. Cefnogodd y Comisiwn achos Ms Coleman a gyrhaeddodd Llys Cyfiawnder Ewrop. Dyfarnodd y Llys fod y darpariaethau yn erbyn gwahaniaethu uniongyrchol ac aflonyddu yn diogelu pobl nad ydynt yn anabl sydd wedi dioddef gwahaniaethu ac aflonyddu oherwydd eu cysylltiad ag unigolyn anabl. Cafodd y dyfarniad hwn effaith arwyddocaol ar ymestyn diogelwch cyfreithiol i’r chwe miliwn o ofalwyr yn y DU, 60 y cant ohonynt yn fenywod, a helpodd hefyd i wella ac ehangu cyfraith cydraddoldeb ddomestig drwy Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

10. R (Tracey) v Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Ysbytai Prifysgol Caergrawnt a’r Gweinidog Gwladol dros Iechyd [2014]

Pan oedd yn yr ysbyty, cafodd yr hysbysiad Na cheisier dadebru cardio-anadlol ei osod ar nodiadau Mrs Tracey heb wybod iddi. Roedd y methiant i gyfathrebu hyn wrth Mrs Tracey yn mynd yn groes i’w hawliau dynol o dan Erthygl 8 (yr hawl i fywyd preifat a theuluol). Roedd y canlyniad yn golygu bod rhaid i weithwyr iechyd bellach gynnwys cleifion mewn unrhyw benderfyniad ynglŷn â’r hysbysiadau hyn. Nid yw dymuniad i osgoi trallod yn rheswm digonol i beidio â gwneud hynny. Dylid amlinellu hawliau cleifion, i gael eu hyngynghori, mewn polisi eglur a hygyrch a dylid eu cyfeirio ato, gyda chopïau ar gael iddynt a’u teuluoedd yn awtomatig.

*Llwyddiannus, neu’n rhannol lwyddiannus, mewn 45 allan o 67 o achosion sydd yn 67%.

Last Updated: 05 Ion 2016