Cytundeb ffurfiol gyda Springcare Limited

Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i gytundeb ffurfiol gyda darparwr gofal iechyd Springcare Limited sy’n anelu i wella ymwybyddiaeth o amrywiaeth a chydraddoldeb ymhlith ei 600 o gyflogeion.

Mae Springcare wedi bod yn darparu gofal i oddeutu 500 o breswylwyr yn y Gogledd –Orllewin am fwy na 10 mlynedd ac mae ganddo gartrefi nyrsio a phreswyl ledled Sir Gaer, Sir Amwythig a Chilgwri..

Cysylltodd y Comisiwn â’r cwmni ar ôl i dribiwnlys cyflogaeth ddyfarnu yn ei erbyn am fethu â rhwystro arferion gwahaniaethol ar sail nodwedd warchodedig oedran.

Mae Springcare bellach wedi cymryd camau i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu cwrs Gwrth-Aflonyddu a Bwlio, a gyflenwyd i bob rheolwr, a pholisi Gwrth-Aflonyddu a Bwlio newydd, y mae pob rheolwr wedi cael copi ohono ynghyd â gwybodaeth ar sut i gyfleu’r polisi i staff.

Fel rhan o’r cytundeb, bydd y cwmni, ym mis Tachwedd 2015, yn anfon adroddiad i’r Comisiwn (yr Adroddiad Interim) yn crynhoi’r mesurau a gymerwyd hyn yn hyn, canfyddiadau ei gwerthusiad o ddeilliannau’r mesurau hyn a’u heffeithiolrwydd wrth gyflawni’r amcanion a amlinellwyd yn y cytundeb.

Ym mis Tachwedd 2016 bydd yn darparu adroddiad terfynol i’r Comisiwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf arno a darparu unrhyw honiadau o wahaniaethu a gafodd ei gynnwys mewn unrhyw achwyniad, cwyn neu hawliad tribiwnlys cyflogaeth a godwyd yn erbyn Springcare neu ei gyflogeion yn y deuddeg mis diwethaf.

Bydd, hefyd, yn hysbysu staff am y cytundeb drwy gyfarfodydd staff a hysbysfyrddau staff.

Last Updated: 11 Rhag 2015