Eich Hawliau o dan Deddf Cydraddoldeb 2010

Daeth y Ddeddf Cydraddoldeb i rym yn gyfreithiol yn 2010. Mae’n cwmpasu pawb ym Mhrydain ac yn diogelu pobl rhag gwahaniaethu, aflonyddu a/neu erledigaeth.

Mae’r wybodaeth ar y tudalennau Eich Hawliau i’ch helpu i ddeall os ydych wedi’ch trin yn anghyfreithlon.


Pwy a ddiogelir gan y Ddeddf Cydraddoldeb?

Diogelir pawb ym Mhrydain. Mae hyn oherwydd bod y Ddeddf yn diogelu pobl rhag gwahaniaethu oherwydd y nodweddion gwarchodedig sydd gennym oll. O dan y Ddeddf, mae naw nodwedd warchodedig:

Mae rhai gwahaniaethau pwysig yn dibynnu ar ba nodwedd warchodedig sydd gennych. Os cliciwch ar un o’r dolenni uchod gallwch ddysgu mwy am sut y cewch eich diogelu.


Sefyllfaoedd lle cewch eich diogelu rhag gwahaniaethu

O dan y Ddeddf Cydraddoldeb diogelir chi rhag gwahaniaethu:

  • Pan rydych yn y gweithle.
  • Pan rydych yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus fel gofal iechyd (e.e. ymweld â’ch meddyg teulu neu ysbyty lleol) neu addysg (e.e. eich ysgol neu goleg).
  • Pan rydych yn defnyddio busnesau a sefydliadau eraill sy’n darparu gwasanaethau a nwyddau (fel siopau, bwytai a sinemâu).
  • Pan rydych yn defnyddio trafnidiaeth.
  • Pan rydych yn ymuno â chlwb neu gymdeithas (e.e. eich clwb tenis lleol); a
  • Phan rydych yn cysylltu â chyrff cyhoeddus fel eich cyngor lleol neu adrannau’r llywodraeth.

Sut y gwahaniaethir yn eich erbyn?

Mae pedwar prif fath o wahaniaethu.

Gwahaniaethu uniongyrchol
Mae hyn yn golygu trin un person yn waeth na pherson arall oherwydd nodwedd warchodedig. Er enghraifft, mae cyfle dyrchafu yn codi yn y gwaith. Mae’r cyflogwr yn credu bod cofion pobl yn gwaethygu wrth iddynt heneiddio, felly ni ddywed am y cyfle wrth un o’i gyflogeion hŷn, oherwydd ei fod yn meddwl na allai’r cyflogai wneud y swydd.

Gwahaniaethu anuniongyrchol
Gall hyn ddigwydd pan fo sefydliad yn gweithredu rheol neu bolisi neu ffordd o wneud pethau sy’n effeithio’n waeth ar rywun â nodwedd warchodedig na rhywun heb un. Er enghraifft mae awdurdod lleol yn bwriadu ailddatblygu rhai o’i dai. Mae’n penderfynu cynnal digwyddiadau ymgynghori gyda’r hwyr. Mae llawer o’r preswylwyr benywaidd yn cwyno na allant fynychu’r cyfarfodydd hyn oherwydd cyfrifoldebau gofal plant.

Aflonyddu
Golyga hyn na all pobl eich trin mewn ffordd sy’n tramgwyddo eich urddas, neu’n creu amgylchedd gelyniaethus, diraddiol, gwaradwyddus neu sarhaus. Er enghraifft, mae dyn sydd â syndrom Down yn ymweld â thafarn gyda ffrindiau. Mae staff y bar yn gwneud sylwadau difrïol a sarhaus amdano, sy’n ei dramgwyddo ac yn ei gynhyrfu.

Erledigaeth
Golyga hyn na all pobl eich trin yn annheg os ydych yn gweithredu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (fel cwyno am wahaniaethu), neu os ydych yn cefnogi rhywun arall sy’n gwneud felly. Er enghraifft, mae cyflogai yn cwyno am aflonyddu rhywiol yn y gwaith ac mae’n cael ei ddiswyddo yn sgil hynny.


Beth arall a wna’r Ddeddf Cydraddoldeb?

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Mae’r Ddeddf yn gofyn i gyrff cyhoeddus (fel cynghorau lleol, ysbytai a darparwyr gwasanaeth a ariennir yn gyhoeddus) i ystyried sut mae eu penderfyniadau a pholisïau yn effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol. Dylai fod gan y corff cyhoeddus hefyd dystiolaeth i ddangos sut y gwnaeth hyn.

Er enghraifft, mae awdurdod lleol am wella ei wasanaeth bws lleol. Mae’n cynnal arolwg o bobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn canfod mai dim ond ychydig o fenywod sy’n defnyddio’r bysau yn y nos oherwydd eu bod yn ofni am gael eu haflonyddu rhywiol. Mae’r awdurdod lleol yn penderfynu gweithio gyda’r heddlu a’r darparwr trafnidiaeth, yn ogystal â’r trigolion lleol, i ganfod ffyrdd i fynd i’r afael â’r broblem hon a gwneud y gwasanaeth bws yn fwy cynhwysol.


Gwybodaeth bellach

Os ydych yn meddwl eich bod efallai wedi cael eich trin yn annheg ac rydych am gyngor pellach, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

  • Rhadffôn 0808 800 0082
  • Ffôn testun 0808 800 0084

Neu ysgrifennu atynt i

Freepost Equality Advisory Support Service FPN4431

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd wedi llunio canllaw cyfreithiol ar y Ddeddf Cydraddoldeb.

Lle arall alla i ddod o hyd i wybodaeth?

Gallwch hefyd gael cyngor gan Gyngor ar Bopeth.

Os ydych yn gofidio am eich triniaeth yn y gwaith, gallwch ymweld ag ACAS am fwy o wybodaeth.

Os ydych yn aelod o undeb, dylai eich cynrychiolydd undeb allu eich helpu hefyd gyda chyngor gwahaniaethu.

Last Updated: 19 Hyd 2015