Gwahaniaethu ar sail rhyw

Dywed Deddf Cydraddoldeb 2010 fod rhaid i chi beidio â chael eich gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd

  • Rydych (neu nid ydych) o ryw benodol.
  • Mae rhywun yn meddwl eich bod o’r ryw arall. Gwahaniaethu drwy ganfyddiad yw hyn.
  • Rydych yn gysylltiedig â rhywun o ryw benodol. Gwahaniaethu drwy gysylltiad yw hyn.

Yn y Ddeddf Cydraddoldeb gall rhyw olygu naill ai gwryw neu fenyw, neu grŵp o bobl fel dynion neu fechgyn, neu fenywod neu ferched.


Beth yw gwahaniaethu ar sail rhyw?

Pan gewch eich trin yn wahanol oherwydd eich rhyw yn un o’r sefyllfaoedd a gwmpesir gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gallai’r driniaeth fod yn rhywbeth unwaith-ac-am-byth neu o ganlyniad i reol neu bolisi yn seiliedig ar ryw. Nid oes rhaid iddo fod yn fwriadol i fod yn anghyfreithlon.

Mae rhai amgylchiadau pan fo trin rhywun yn wahanol oherwydd cyfeiriadedd rhywiol yn gyfreithlon, ac fe’i heglurir isod.


Mathau gwahanol o wahaniaethu ar sail rhyw

Mae pedwar prif fath o wahaniaethu ar sail rhyw.

Gwahaniaethu uniongyrchol

Mae hyn yn digwydd pan fo rhywun yn eich trin yn waeth na pherson arall mewn sefyllfa gyffelyb oherwydd eich rhyw.

Er enghraifft, mae clwb nos yn cynnig mynediad am ddim i fenywod ond yn codi tâl ar ddynion i gael mynediad.

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fo gan sefydliad bolisi penodol neu ffordd o weithio sy’n berthnasol yn yr un ffordd i’r ddau ryw ond sy’n eich rhoi chi o dan anfantais.

Er enghraifft, mae cyflogwr yn penderfynu newid patrymau sifft i staff fel eu bod yn gorffen am 5 pm yn lle 3pm. Gallai cyflogeion benywaidd fod o dan anfantais os yw’r patrwm sifft newydd yn golygu na allant gasglu eu plant o’r ysgol neu ofal plentyn.

Gellir caniatáu gwahaniaethu anuniongyrchol os gall y sefydliad neu’r cyflogwr ddangos fod rheswm da am y polisi. Cyfiawnhad gwrthrychol yw hyn.

Aflonyddu

Mae tri math o aflonyddu ar sail rhyw.

Mae’r math cyntaf yr un peth i’r holl nodweddion gwarchodedig.

Pan fo rhywun wedi’ch cywilyddio, wedi’ch tramgwyddo neu’ch diraddio.

  • Er enghraifft, mae rheolwr yn sylwi nad oes pwynt i ddyrchafu menywod oherwydd eu bod yn gadael i gael plant. Er nad yw’n cyfeirio’r sylwadau hyn at gyflogai benywaidd arbennig, caiff un o’i staff ei gwylltio gan hyn ac mae’n gofidio am ei gyrfa. Gallai hyn gael ei ystyried fel aflonyddi.

Aflonyddu ar sail rhyw yw’r ail fath o aflonyddu. Pan fo rhywun wedi’ch cywilyddio, wedi’ch tramgwyddo neu’ch diraddio oherwydd eu bod yn eich trin mewn ffordd rywiol.

Gelwir hyn yn ‘ymddygiad o natur rywiol nas dymunir’ ac mae’n cynnwys triniaeth eiriol a chorfforol, fel sylwadau neu jôcs rhywiol, cyffwrdd neu ymosod yn gorfforol. Mae hefyd yn cynnwys anfon e-byst o natur rywiol neu hongian darluniau pornograffig.

  • Er enghraifft, mae darlithydd prifysgol yn cellwair yn rhywiol ag un o’i fyfyrwyr benywaidd ac yn awgrymu y bydd hi’n llwyddo yn eu harholiadau os wnaiff hi gysgu gydag ef.

Pan fo rhywun wedi’ch trin yn annheg oherwydd eich bod wedi gwrthod dioddef ei aflonyddu ar sail rhyw yw’r trydydd math o aflonyddu.

  • Er enghraifft, mae rheolwr yn gwahodd un o’i gyflogeion benywaidd adref ar ôl iddynt fod allan am ddiod. Mae hi’n gwrthod. Ychydig o wythnosau’n ddiweddarach caiff ei gwrthod rhag cael dyrchafiad. Mae hi’n credu bod hyn wedi digwydd oherwydd iddi wrthod cynnig ei meistr.

Gall hefyd gynnwys triniaeth annheg hyd yn oed pe bai’ch wedi derbyn ymddygiad rhywiol blaenorol.

  • Er enghraifft, roedd y cyflogai uchod wedi cael cyfathrach fer gyda’i meistr. Ar ôl iddo ddod i ben, ymgeisiodd am ddyrchafiad ond bu’n aflwyddiannus. Mae hi’n credu ei bod wedi’i gwrthod oherwydd bod ei chyfathrach a’i rheolwr wedi dod i ben.

Ni ellir fyth cyfiawnhau aflonyddu. Fodd bynnag, os gall sefydliad neu gyflogwr ddangos ei fod wedi gwneud popeth a allai i atal ei weithwyr rhag ymddwyn yn y fath fodd, ni allwch ddwyn hawliad o aflonyddu yn ei erbyn, er gallech ddwyn hawliad yn erbyn yr aflonyddwr.

Erledigaeth

Pan gewch eich trin yn wael oherwydd ichi wneud achwyniad o dan y Ddeddf Cydraddoldeb o gael eich gwahaniaethu ar sail rhyw. Gall ddigwydd hefyd pan rydych yn cefnogi rhywun sydd wedi gwneud achwyniad o dan y Ddeddf o wahaniaethu ar sail rhyw.

  • Er enghraifft, mae cydweithiwr gwrywaidd yn helpu cydweithiwr benywaidd gyda’i hawliad o wahaniaethu ar sail rhyw, ac mae’n gwneud datganiad yn y Tribiwnlys Cyflogaeth. Diswyddir y cydweithiwr gwrywaidd wedyn neu fe’i trinnir yn wael gan ei gyflogwr. Dyma erledigaeth oherwydd rhyw.

Amgylchiadau pan fo cael eich trin yn wahanol oherwydd rhyw yn gyfreithlon

Mae gan y Ddeddf rai eithriadau sy’n caniatáu i gyflogwyr neu sefydliadau wahaniaethu ar sail eich rhyw.
Gallai gwahaniaeth o ran triniaeth fod yn gyfreithiol os:

  • Mae bod o ryw benodol yn hanfodol i swydd. Gelwir hyn yn ofyniad galwedigaethol. Mae hyn yn cynnwys rhai swyddi sy’n gofyn am rywun o ryw benodol am resymau preifatrwydd neu wedduster neu lle darperir gwasanaethau personol. Er enghraifft, gallai campfa gyflogi gwas ystafell newid sydd o’r un rhyw â defnyddwyr yr ystafell honno. Yn yr un modd gallai lloches i fenywod sy’n darparu gwasanaethau i fenywod yn unig ofyn i’w staff fod yn fenywod.
  • Mae sefydliad yn cymryd camau cadarnhaol i annog neu ddatblygu pobl o ryw a ddangynrychiolir neu cânt eu rhoi dan anfantais mewn rôl neu weithgarwch. Er enghraifft: Mae cwmni peirianegol yn hysbysu am beiriannydd dan hyfforddiant gan ddweud y croesawir ceisiadau gan fenywod. Mae hyn oherwydd bod menywod ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yn y diwydiant peirianegol.

Eithriadau eraill

Gall y lluoedd arfog wrthod cyflogi menyw, neu gyfyngu ei mynediad i hyfforddiant neu ddyrchafiad os yw’n golygu y gallant sicrhau effeithiolrwydd ymladd y lluoedd arfog.
Ym maes chwaraeon cystadleuol gall trefnwyr gynnal digwyddiadau gwahanol i ddynion a menywod oherwydd byddai’r gwahaniaethau o ran stamina, cryfder a chorffoledd yn peri i’r gystadleuaeth fod yn annheg.
Mae nifer o sefyllfaoedd lle gall sefydliad yn gyfreithlon ddarparu gwasanaethau un rhyw. Ymhob un o’r amgylchiadau mae rhaid iddynt allu ei gyfiawnhau.

  • Er enghraifft, byddai cynnig gwasanaethau cymorth i fenywod yn unig i fenywod sy’n dioddef trais domestig yn debygol o gael sêl bendith hyd yn oed pe na bai gwasanaeth cyfochrog i ddynion oherwydd y diffyg galw.

Gall sefydliad crefyddol weithiau gyfyngu cyflogaeth i un rhyw os yw’r rôl i bwrpas crefyddol.

  • Er enghraifft, gall synagog uniongred ofyn yw rabi fod yn ddyn.


Gwybodaeth bellach

Os ydych yn meddwl eich bod wedi’ch trin yn annheg ac am gyngor pellach gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Rhadffôn 0808 800 0082

Ffôn testun 0808 800 0084

Neu ysgrifennwch atynt i

Freepost Equality Advisory Support Service FPN4431

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd wedi llunio canllaw cyfreithiol ar y Ddeddf Cydraddoldeb.

Last Updated: 19 Hyd 2015