Arolwg o strategaeth gyfreitha

Mae’r Comisiwn wedi lansio ymgynghoriad ar ein strategaeth gyfreithiol. Hoffem glywed barn ystod eang o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys cyfreithwyr, canolfannau cynghori, y sector gwirfoddol a chyrff eraill ar eu blaenoriaethau o ran materion hawliau dynol a chydraddoldeb. Bydd yn erfyn allweddol ar gyfer gosod yr agenda i waith cyfreithiol y sefydliad.

Hoffem glywed gan rhanddeiliaid hefyd a hoffai weithio gyda’r Comisiwn a chyfeirio achosion cyfreithiol atom.

Rhannwch eich barn drwy lenwi’r arolwg isod. Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw 12 Rhagfyr 2014.
Byddwn hefyd yn cynnal pum digwyddiad ymgynghori yn yr Hydref (dau yn Llundain ac un yng Nghymru, yr Alban a Manceinion)

Mae ein strategaeth gyfreitha bresennol yn cynnwys:

a) egwyddorion cyfreitha strategol,
b) meini prawf cyfreitha strategol,
c) materion blaenoriaeth strategol.

Lawr lwytho ein Strategaeth Gyfreitha 2012/2013 gyfredol (Word)

Amdanoch chi

Strategaeth gyfreitha’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

5) Rydym yn rhagweld y bydd y strategaeth gyfreitha newydd yn adeiladu ar egwyddorion a meini prawf sydd eisoes yn bodoli i nodi set glir o ffactorau a fydd yn llywio ein penderfyniadau cyfreitha. Yn y blychau isod, wnewch chi roi adborth ar yr egwyddorion a’r meini prawf presennol, gan ddweud wrthym nid yn unig am yr hyn y gallai fod o werth yn y strategaeth bresennol neu’r hyn nad yw o werth ond hefyd yr hyn y gellir ei hepgor.

6) Ni cheisir am eich barn ar y materion blaenoriaeth strategol a restrir dan baragraff (c) yn y strategaeth bresennol gan na chaiff y rhestr honno ei chynnwys yn y ddogfen ddiwygiedig. Ein nod yw llunio strategaeth ddiwygiedig sy’n glir ei chanolbwynt, cryno, effeithiol ac sy’n adlewyrchu lefel gyfyngedig adnoddau’r Comisiwn. Bydd y materion blaenoriaeth strategol sy’n llywio’n penderfyniadau cyfreitha yn deillio o Gynllun Strategol y Comisiwn, yr ydym yn ymgynghori arno ar wahân ac yn bwriadu ei adolygu bellach yn 2015.

Symud ymlaen

Gydag adnoddau cyfyngedig a rhwymedigaeth i’w defnyddio mor effeithiol â phosibl, ni all y Comisiwn gynnig cymorth i bawb, a rhaid iddo ganolbwyntio ar achosion sydd ag effaith strategol. Er hynny, rydym am glywed am yr achosion hynny y gallai, yn eich tyb chi, brofi’r gyfraith a bod ag effaith eang mewn meysydd allweddol.

Cysylltu

Last Updated: 24 Medi 2014