Busnesau

Mae’r canllaw hwn yn dweud wrthych sut gallwch chi osgoi’r holl fathau o wahaniaethu anghyfreithiol. Rydym yn rhoi trosolwg i chi o sut mae cyfraith cydraddoldeb yn berthnasol i bob busnes, ac yna rydym yn mynd ymlaen i gymryd golwg ar faterion penodol y gallai busnesau sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yn y gwahanol sector fod angen eu hystyried wrth edrych ar ofynion cyfraith cydraddoldeb arnynt.

Mae tudalennau yn yr adran hon yn cynnwys:

Canllaw craidd: Busnesau

Mathau arbennig o fusnesau

Busnesau sy’n gwerthu nwyddau, megis siopau a gorsafoedd petrol

Banciau a darparwyr gwasanaethau ariannol eraill

Adeiladwyr, masnachwyr eraill a chwmnïau yn darparu gwasanaethau tebyg

Asiantau tai, asiantau gosod a chwmnïau rheoli eiddo

Campfeydd, clybiau iechyd a darparwyr gweithgareddau chwaraeon

Siopau trin gwallt, barbwyr a salonau harddwch

Gwestai, bwytai, caffis a thafarndai

Theatrau a lleoliadau adloniant eraill

Dylunwyr a gwneuthurwyr nwyddau – sydd wedi eu cynnwys dan amgylchiadau penodol yn unig.

Os nad yw’ch busnes ar y rhestr hon, nid yw’n golygu nad yw cyfraith cydraddoldeb yn berthnasol i chi. Bydd darllen y canllaw hwn yn eich helpu chi a’ch busnes. Defnyddiwch ef i ddysgu sut i weithredu’r hyn mae’n ei ddweud yn eich busnes.

Nid oes gwahaniaeth p’un a ydych yn rhoi’r gwasanaeth am ddim (er enghraifft, rhoi gwybodaeth i rywun am eich gwasanaethau â thâl) neu os byddwch yn codi tâl amdanynt. Nid oes gwahaniaeth p’un a ydych wedi sefydlu’ch hun yn fasnachwr unigol, partneriaeth, cwmni cyfyngedig neu strwythur cyfreithiol arall. Nid yw maint eich sefydliad yn bwysig ychwaith. Mae cyfraith cydraddoldeb yn berthnasol i chi.

Mae cyfraith cydraddoldeb yn effeithio ar bawb sy’n gyfrifol am redeg eich busnes neu a allai wneud rhywbeth ar ei ran, yn cynnwys staff os ydych yn eu cyflogi.

Rhagor o wybodaeth

Last Updated: 28 Awst 2014