Beth yw hawliau dynol

‘Hawliau dynol’ yw’r hawliau a'r rhyddfreiniau sylfaenol y mae pob un yn y byd yn berchen arnynt.

Mae syniadau am hawliau dynol wedi datblygu dros sawl canrif. Ond cawsant gefnogaeth ryngwladol gref yn dilyn yr Holocost a’r Ail Ryfel Byd. I ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag ailadrodd y trychinebau hyn, mabwysiadodd y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol ym 1948. Am y tro cyntaf, amlygodd y Datganiad Cyffredinol yr hawliau a'r rhyddfreiniau cyffredinol sy’n cael eu rhannu gan bob bod dynol.

Canfyddwch fwy wrth wylio ffilm

Fideo byr a gynhyrchwyd gan Amnesty yw 'Everybody - we are all born free' sy’n dod â’r Datganiad yn fyw.


Ysbrydolodd yr hawliau a’r rhyddfreiniau hyn – yn seiliedig ar egwyddorion craidd megis urddas, cydraddoldeb a pharch – ystod o gytundebau hawliau dynol rhyngwladol a rhanbarthol. Er enghraifft, ffurfiont sail ar gyfer y Cytundeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ym 1950. Mae’r Cytundeb Ewropeaidd yn diogelu hawliau dynol pobl sy’n perthyn i Cyngor Ewrop. Mae’n cynnwys y Deyrnas Unedig.

Tan yn ddiweddar, roedd yn rhaid i bobl yn y Deyrnas Unedig gwyno i’r Llys Ewropeaidd dros Hawliau Dynol yn Strasbwrg os oeddent yn teimlo bod eu hawliau dan y Cytundeb Ewropeaidd wedi cael eu torri.

Fodd bynnag, mae Deddf Hawliau Dynol 1998 wedi gwneud yr hawliau dynol hyn yn rhan o'n cyfraith gartref ac, erbyn hyn, mae llysoedd yma yn y Deyrnas Unedig yn gallu gwrando achosion hawliau dynol. Darganfod mwy am sut mae hawliau dynol yn gweithio.

Sut mae hawliau dynol yn eich helpu chi?

Caiff hawliau dynol eu seilio ar egwyddorion craidd, megis urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac annibyniaeth.Maent yn berthnasol i’ch bywyd beunyddiol ac yn diogelu eich rhyddid i reoli eich bywyd eich hun, cymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan awdurdodau cyhoeddus sy’n effeithio ar eich hawliau a chael gwasanaethau teg a chyfartal gan awdurdodau cyhoeddus.

Hefyd yn yr adran hon:

Last Updated: 07 Hyd 2014