Ymyriadau cyfreithiol

Gan ddefnyddio’n pwerau cyfreithiol unigryw, rydym wedi ymyrryd mewn cyfres o achosion hawliau dynol yn ddomestig ac yn Ewrop fel ei gilydd. O ganlyniad i’r achosion hyn mae unigolion wedi cael y diogelwch sy’n haeddiannol iddynt, o filwyr yn gwasanaethu dramor i bobl hoyw yn dianc rhag erledigaeth.

Rhagfyr 2011

NS v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref

Mae’r Llys Apêl wedi atgyfeirio nifer o gwestiynau yn ymwneud â dehongli cyfraith yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys cwmpas Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE a Phrotocol y DU, i Lys Cyfiawnder yr UE ac mae wedi atal yr apêl yn amodol ar y cyfeiriad. Mae ymyriad y Comisiwn eisoes wedi cael effaith fesuradwy. Prin cyn y gwrandawiad cydsyniodd yr Ysgrifennydd Gwladol y gellir dibynnu ar 'yr hawliau sylfaenol a amlinellwyd yn Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE yn erbyn y Deyrnas Unedig a ...bod [yr Uchel Lys] wedi gwneud camgymeriad wrth ddal fel arall'. Ar gais y Comisiwn, nododd y Llys y consesiwn yn ei resymau am wneud y cyfeiriad a chadarnhaodd hefyd mai pwrpas y Protocol oedd peidio â gadael i’r DU eithrio ei hunan o’r Siarter. Mae’r cwestiynau a atgyfeiriwyd i’r Llys Cyfiawnder yn cynnwys cwestiynau ar gwmpas y Siarter ac ar effaith y Protocol yn arbennig ac mae’r Comisiwn wedi’i wahodd i wneud cyflwyniadau.

2011

P, Q, R v Awdurdodau Lleol A a B – Tribiwnlys Haen Gyntaf (Nawdd Cymdeithasol)

Dyfarnodd y tribiwnlys fod y Rheoliadau Budd-dal Tai yn mynd yn groes i Erthygl 8 (yn achos un o’r apelyddion) ac Erthygl 14 (yn achos pob un o’r apelyddion) y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae problemau iechyd meddwl gan bob un o’r tri apelydd ac maent wedi’u cadw’n gaeth am gyfnodau o fwy na 52 wythnos o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl. Patrwm pob un yw cyfnodau o gael eu cadw’n gaeth ac wedyn cyfnodau pan maent yn ddigon da i ddychwelyd i’w cartrefi. Pan gollir budd-dal tai, mae eu cartrefi mewn perygl o gael eu hailfeddiannu. Y rheol sy’n cael ei herio yw ar ôl 52 wythnos mewn ysbyty fe gollir Budd-dal Tai oherwydd ni ystyrir y person mwyach yn ‘absennol dros dro’ o’i gartref. Dadleuodd yr apelyddion a’r Comisiwn fod y rheol 52 wythnos yn methu â chymryd i gyfrif safle gwahanol y rheini sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn ysbyty o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl. Dyfarnodd y tribiwnlys y dylid darllen y rheolau i olygu ‘yn gyfyngedig i 52 wythnos, neu o ran achos rhywun [yn absennol dros dro mewn ysbyty]..cyfnod pellach o’r fath y mae’r awdurdod yn ei ystyried yn gymesur o ran holl amgylchiadau’r achos'.

Hydref 2010

Al Saadoon v y DU

Dyfarnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop fod hawliau’r dynion o dan Erthyglau 3, 13 a 34 y Confensiwn Ewropeaidd yn cael eu torri wrth i’r llywodraeth eu harestio a’u cadw’n gaeth. Beirniadodd Llys Hawliau Dynol Ewrop y Llywodraeth am fethu â chymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’i orchymyn dros dro ac i gael sicrwydd gan yr awdurdodau yn Iraq na fyddai’r dynion yn wynebu’r gosb eithaf. Roedd y Comisiwn wedi cyflwyno i’r Llys y dylai ystyriaethau hawliau dynol dycio pan fo rhwymedigaethau cyfraith ryngwladol Prydain yn gwrthdaro â’u rhwymedigaethau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Cytunodd Llys Hawliau Dynol Ewrop, gan gadarnhau bod ystyriaethau hawliau dynol yn uchel iawn mewn achosion o’r fath ac nid yw’n agored i Wladwriaeth Gontractio ‘ddod i gytundeb sy’n gwrthdaro â’i rhwymedigaethau o dan y Confensiwn.'

Medi 2010

JM v y DU

Dadleuodd y Comisiwn y dylai cwpl o’r un rhyw ddod o fewn y diffiniad ‘bywyd teuluol’ at ddibenion Erthygl 8 ac, wrth asesu a yw sefyllfa’n dod o fewn cwmpasiad hawl benodol y Confensiwn neu beidio, y dylid mabwysiadu ymagweddiad eang. Dyfarnodd y Llys ei bod wedi’i gwahaniaethu yn erbyn ar sail ei chyfeiriadedd rhywiol ond dyfarnodd nad oedd yn angenrheidiol iddo ystyried a allai cwpl o’r un rhyw gael ei ystyried yn ‘deulu’ o fewn ystyr Erthygl 8.

Kay v y DU

Cytunodd Llys Hawliau Dynol Ewrop â’r Comisiwn, gan ddweud mai ‘r ‘ffurf fwyaf eithriadol o ymyrraeth â’r hawl at barch i gartref yw colli’ch cartref’. Aethant rhagddi i ddweud fod gan unrhyw un sy’n wynebu colled o’r maintioli hwnnw hawl i gymesuredd y golled gael ei bennu gan dribiwnlys neu lys annibynnol, hyd yn oed os yw’r hawl i fyw yno wedi darfod.

Gorffennaf 2010

HJ a HT v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref

Derbyniodd y Goruchaf Lys y prawf a amlinellodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o ran ceiswyr lloches hoyw. Dyfarnodd na ellid dychwelyd ceiswyr lloches hoyw i’w gwlad enedigol ar y sail y gallent osgoi erledigaeth drwy fod yn synhwyrol.

Mehefin 2010

R (Smith) v Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn

Derbyniodd y Llys gyflwyniadau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am yr angen am ymchwiliad i gydymffurfiaeth Erthygl 2 ond ni dderbyniodd ei gyflwyniadau ar gymhwysiad awdurdodaethol y Ddeddf Hawliau Dynol.

Mai 2010

Awdurdod Lleol v A, B, C, D ac E

Gofynnodd y Llys i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ymyrryd. Derbyniodd y Llys gyflwyniadau’r Comisiwn ar rwymedigaethau cadarnhaol y wladwriaeth o ran plant anabl yn cael eu cloi yn eu hystafelloedd gwely gan eu rhieni ar gyfer eu diogelwch eu hunain, ond cyfyngwyd y rhain i gymorth a chyngor.

Mawrth 2010

Gofal Catholig (Esgobaeth Leeds v y Comisiwn Elusen)

Derbyniodd yr Uchel Lys gyflwyniad y Comisiwn fod rhwymedigaeth gan y Comisiwn Elusen fel awdurdod cyhoeddus i ystyried hawliau dynol wrth benderfynu a ddylai ganiatáu i elusen grefyddol newid ei nodau elusennol fel y gallai wahaniaethu yn erbyn mabwysiadon hoyw. Gorchmynnwyd i’r Comisiwn Elusen ddiwygio ei benderfyniad. Fe wnaeth hynny ond dyfarnodd na allai gymeradwyo cais yr Elusen. Mae’r Elusen wedi apelio.

Chwefror 2010

R (Ghai) v Cyngor Dinas Newcastle upon Tyne

Cyflwynodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y byddai peidio â chaniatáu i Mr Ghai gael coelcerth angladdol awyr agored ar gyfer ei angladd ei hun yn mynd yn groes i’w hawliau o dan Erthyglau 8 a 9 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Dyfarnodd y Llys Apêl y gellir corfflosgi Mr Ghai mewn amlosgfa awyr agored, yn unol â’i gredoau crefyddol o dan y Ddeddf Amlosgfa. Nid oedd angen iddo ystyried dadleuon Hawliau Dynol.

Ionawr 2010

R (G) v Llywodraethwyr Ysgol X, Ysgrifennydd Gwladol dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ymyrryd yn y Llys Apêl

Cyflwynodd y Comisiwn fod, o ystyried canlyniadau difrifol canlyniad gwrandawiad disgyblu G, hawl ganddo i dreial teg, gan gynnwys yr hawl i gael ei gynrychioli gan gyfreithiwr. Mewn penderfyniad unfrydol, cytunodd y Llys Apêl â’r Comisiwn. Dywedodd yr Arglwydd Ustus Laws ‘ei fod wedi’i hen sefydlu yma ac yn Strasbwrg bod lefel y diogelwch trefniadol ... yn dibynnu ar beth sydd yn y fantol.' O ystyried yr effaith y gallai bod ag eiriolwr gael ar yr achos disgyblu a’r goblygiadau mawr yn y fantol, dylai G gael y cyfle i drefnu cynrychiolaeth gyfreithiol os dymuna hynny.

Last Updated: 24 Tach 2015