Gwahaniaethu ar sail Priodas a Phartneriaeth Sifil

Dywed y Ddeddf Cydraddoldeb fod rhaid i chi beidio â chael eich gwahaniaethu yn eich erbyn ym myd cyflogaeth oherwydd eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Yn y Ddeddf Cydraddoldeb, mae priodas a phartneriaeth sifil yn golygu rhywun sy’n gyfreithiol yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Gall priodas naill fod rhwng dyn a menyw, neu rhwng cymheiriaid o’r un rhyw. Mae partneriaeth sifil rhwng cymheiriaid o’r un rhyw.

Nid yw’r nodwedd hon gan bobl os ydynt yn:

  • sengl.
  • yn byw gyda rhywun fel cwpl nad ydynt naill ai’n briod neu’n gymheiriaid sifil.
  • wedi dyweddïo i briodi ond heb briodi.
  • wedi ysgaru neu berson y mae ei bartneriaeth/phartneriaeth sifil wedi’i ddirymu.

Beth yw gwahaniaethu ar sail Priodas a Phartneriaeth Sifil?

Pan gewch eich trin yn wahanol yn y gweithle oherwydd eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil.


Gwahanol fathau o wahaniaethu ar sail priodas neu bartneriaeth sifil

Mae tri math o wahaniaethu ar sail priodas a phartneriaeth sifil.

Gwahaniaethu uniongyrchol

Digwydd hyn pan gewch eich trin yn waeth na gweithwyr eraill yn eich gweithle oherwydd eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

  • Er enghraifft, mae menyw yn gweithio sifftiau nos mewn ystordy dosbarthu ond diswyddir hi ar ôl iddi briodi gan fod ei chyflogwr o’r farn y dylai menyw briod fod adref yn y nos.

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Digwydd gwahaniaethu uniongyrchol pan fo gan gyflogwr bolisi neu ffordd o weithio sy’n rhoi pobl sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil o dan anfantais.

Caniateir y fath bolisi’n unig os gall eich cyflogwr ddangos fod rheswm da amdano a bod gweithredu’r polisi yn briodol neu’n angenrheidiol. Cyfiawnhad gwrthrychol yw hyn.

Erledigaeth

Pan gewch eich trin yn wael oherwydd eich bod wedi cwyno am wahaniaethu sy’n gysylltiedig â phriodas neu bartneriaeth sifil. Gall ddigwydd hefyd os ydych yn cefnogi rhywun sydd wedi cwyno am wahaniaethu sy’n gysylltiedig â phriodas neu bartneriaeth sifil.


Amgylchiadau pan fo trin rhywun yn wahanol oherwydd priodas neu bartneriaeth sifil yn gyfreithlon.

Mae’r Ddeddf yn eich diogelu rhag gwahaniaethu yn unig yn y gwaith oherwydd eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Mewn rhai amgylchiadau penodol gall cyflogwr wrthod eich cyflogi oherwydd eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil os yw’r gwaith i ddibenion crefydd gyfundrefnol, er enghraifft fel offeiriad Pabyddol.

Nid yw’r darpariaethau aflonyddu sy’n berthnasol i nodweddion gwarchodedig eraill yn gymwys i briodas neu bartneriaeth sifil ond os rydych yn destun i driniaeth elyniaethus, fygythiol, gywilyddus, ddiraddiol neu dramgwyddus oherwydd eich bod yn briod neu’n gymar sifil gallech ddwyn hawliad am wahaniaethu uniongyrchol os gallwch ddangos eich bod wedi’ch trin yn waeth nag eraill nad ydynt yn briod/neu mewn partneriaeth sifil.

Fel arall, gallech ddwyn hawliad am aflonyddu ar sail cyfeiriadedd rhywiol.


Gwybodaeth bellach

Os ydych yn meddwl eich bod efallai wedi cael eich trin yn annheg ac rydych am gyngor pellach, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Rhadffôn 0808 800 0082

Ffôn testun 0808 800 0084

Neu ysgrifennu atynt i

Freepost Equality Advisory Support Service FPN4431

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd wedi llunio canllaw cyfreithiol ar y Ddeddf Cydraddoldeb.

Last Updated: 19 Hyd 2015