Polisi a Gweithdrefn Cwynion

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bawb rydym yn ymdrin â hwy. Er mwyn gwneud hyn rydym am i chi gyflwyno unrhyw sylwadau am ein gwasanaeth i ni, a dweud wrthym pan fydd pethau’n mynd o le. Rydym am eich cynorthwyo i ddatrys eich cwyn cyn gynted â phosibl.

Os mynegir unrhyw anfodlonrwydd gyda’n gwasanaeth caiff hyn ei drin fel cwyn sy’n galw am ymateb. Rydym yn gwrando ar eich cwynion, yn eu trin o ddifrif ac yn dysgu ganddynt er mwyn gwella ein gwasanaeth yn barhaus.

Mae’r polisi hwn ar gael hefyd yn y Gymraeg. Am y polisi neu os hoffech ymateb i gŵyn mewn iaith arall neu fformat (fel Braille, Gryno Ddisg sain, print mawr neu Hawdd i’w Ddarllen) cysylltwch a’n Huned Ohebiaeth.

Gallwch gyflwyno cwyn:

mewn e-bost at: [email protected]

neu’n ysgrifenedig i:

Attention: Correspondence Unit
Equality and Human Rights Commission
Arndale House
The Arndale Centre
Manchester M4 3AQ

Gweler hefyd:

Last Updated: 08 Awst 2014