Preifatrwydd

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r gwasanaethau a ddarperir gan wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Nid yw’r polisi yn berthnasol i wefannau allanol y gellir eu hagor trwy ddolenni ar y wefan hon. Dylech fod yn ymwybodol bob amser pan rydych chi’n symud i wefan arall a dylech ddarllen datganiad preifatrwydd unrhyw wefan sy’n casglu gwybodaeth bersonol.
Nid yw’r wefan hon yn storio nac yn casglu gwybodaeth bersonol yn awtomatig, dim ond cofnodi’ch cyfeiriad IP, ac mae gweinydd y wefan yn ei adnabod yn awtomatig.
Ni fyddwn yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol rydych chi wedi’i rhoi i ni i unrhyw wefan arall. Bydd y system yn cofnodi eich cyfeiriad e-bost, a gwybodaeth arall y byddwch wedi’i rhoi i ni o’ch gwirfodd, er enghraifft, ar y ffurflen Cysylltu â ni, tanysgrifiadau i’r cylchlythyr / bwletin e-bost ac mewn fforymau ar-lein. Caiff unrhyw wybodaeth o’r fath ei storio yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a chaiff ei thrin yn berchnogol a chyfrinachol. Gellir ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiad neu i ddweud wrthych am ddiweddariadau i’r wefan hon.

Diwygiadau i’r datganiad preifatrwydd

Os bydd y datganiad preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn wedi’i diweddaru ar y dudalen hon. Trwy adolygu’r dudalen hon mae’n sicrhau eich bod yn ymwybodol o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut mae’n cael ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu gyda phartïon eraill.

Polisi Deddf Diogelu Data

Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn rheoleiddio prosesu gwybodaeth yn ymwneud ag unigolion. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth o’r fath, ei ddal, ei ddefnyddio neu eu ddatgelu, ac mae’n cwmpasu cofnodion ar gyfrifiadur yn ogystal â systemau ffeilio â llaw a chardiau mynegai. Bydd y Comisiwn yn dal y wybodaeth bersonol lleiaf sydd ei hangen i’w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau. Mae pob gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol ac mae angen ei thrin yn ofalus i gydymffurfio â’r gyfraith.

Os hoffech cael copi o unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch, wnewch chi lenwi’r Ffurflen Gais am Fynediad at Ddata Testun. Mae gennych hawl i gael yr wybodaeth hon o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Wedi i chi orffen llenwi’r ffurflen wnewch chi ei hanfon mewn e-bost ynghyd â manylion adnabod priodol at [email protected], neu ei hanfon drwy’r post i:

Correspondence Unit
Equality and Human Rights Commission
Arndale House
The Arndale Centre
Manchester
M4 3AQ

Ymdrechwn i ateb yn brydlon a sut bynnag cyn pen 40 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad y diweddaraf o’r canlynol:

  1. Dyddiad y cawsom eich manylion adnabod a’ch cais am fynediad at destun; neu
  2. Dyddiad y cawsom unrhyw wybodaeth bellach a ofynom oddi wrthych sydd ei hangen arnom er mwyn i ni allu gydymffurfio â’ch cais am fynediad at destun ynghyd â’r tâl perthnasol.

Lawr lwytho Polisi Deddf Diogelu Data y Comisiwn (Word)

Lawr lwytho Ffurflen Cais am Ddata Testun (Word)

Last Updated: 04 Meh 2009