Canllaw crefydd neu gred i gyflogwyr

Ym mis Ionawr 2013, cyhoeddodd Llys Hawliau Dynol Ewrop ei ddyfarniadau mewn pedwar achos cyfunol yn ymwneud â hawliau crefyddol yn y gweithle. Cafodd yr achosion eu cyflwyno gan Gristnogion, ond mae goblygiadau’r dyfarniadau yn berthnasol i gyflogeion ag unrhyw grefydd neu gred, neu sydd heb un. Mae’r dyfarniad yn effeithio ar gyfrifoldebau cyflogwyr ar gyfer polisïau ac arferion yn diogelu hawliau crefydd neu gred yn y gweithle, hawliau cyflogeion (yn cynnwys ymgeiswyr swydd) a hawliau cwsmeriaid.

Gall y dyfarniadau gael eu cyfeirio at Uwch Swyddfa Llys Hawliau Dynol Ewrop a’u hategu, gwrthdroi neu’u haddasu. Yn y cyfamser, rydym yn argymell y dylai cyflogwyr ddefnyddio’r canllawiau newydd isod sy’n cynnwys detholiad enghreifftiau o geisiadau, a sut y gallai cyflogwyr delio â nhw. Gallwch hefyd fwrw golwg ar yr adran Cwestiynau ac Atebion isod sy’n mynd i’r afael â chwestiynau allweddol i gyflogwyr.

Canllaw i Gyflogwyr

Last Updated: 26 Awst 2014