Hawliau Dynol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Nid her arall yw hawliau dynol i sector iechyd a gofal cymdeithasol, sydd dan bwysau mawr, i’w ateb. Os ymwreiddir hawliau dynol mewn polisïau ac arferion sydd eisoes yn bodoli, gallant wella profiadau i bawb - o ddefnyddwyr gwasanaeth, i weithwyr, i gomisiynwyr a darparwyr gwasanaeth. Mae hawliau dynol yn fodd o ddarparu ethos moesegol, fel y’i hargymhellwyd gan adolygiadau cyhoeddus megis Ymchwiliad Francis ac Adolygiad Cavendish.

I helpu gwireddu hyn, sefydlodd y Comisiwn, Hawliau Dynol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Prosiect dwy flynedd yw, a sefydliwyd yn nyddiau cynnar 2014, i gynorthwyo sector iechyd a gofal cymdeithasol Lloegr i gydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998. Nod y prosiect yw cyflawni’r deilliannau a ganlyn:

  • Gwybodaeth, dealltwriaeth a gallu gwell yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol i’r diben o gyflawni ei ddyletswyddau statudol i barchu, amddiffyn a hybu hawliau dynol, gan gynnwys mynd i’r afael ag anghydraddoldeb;
  • Gwybodaeth, dealltwriaeth a gallu cynyddol ar ran darparwyr a chomisiynwyr iechyd a gofal cymdeithasol i droi cysyniadau ac amddiffynion hawliau dynol i gynllunio a chyflenwi gwasanaeth o ansawdd uwch; a
  • Profiadau gofal gwell i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a gofalwyr drwy ymwreiddio ymagwedd yn seiliedig ar hawliau dynol i gyflenwi gwasanaeth.

Wrth geisio’r deilliannau hyn, mae’r Comisiwn yn cyflenwi:

Cadwch i fyny gyda’r newyddion diweddaraf drwy ymweld â’n tudalennau yn rheolaidd, a chanfod yr hyn y gall hawliau dynol ei wneud i chi.

Last Updated: 06 Maw 2015