Gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd

Dywed Deddf Cydraddoldeb 2010 fod rhaid i chi beidio â chael eich gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich bod yn drawsrywiol – hynny yw, mae eich hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’r rhyw a neilltuwyd ar eich genedigaeth.

  • Er enghraifft, mae person a neilltuwyd yn fenyw ar enedigaeth yn dewis treulio gweddill ei fywyd fel dyn.

Yn y Ddeddf Cydraddoldeb ailbennu rhywedd yw hyn. Mae pob person trawsrywiol yn rhannu’r nodwedd gyffredinol o ailbennu rhywedd.

I gael eich diogelu rhag gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd, nid oes angen i chi fod wedi cael triniaeth benodol neu lawdriniaeth i newid y rhyw a neilltuwyd i chi ar enedigaeth i’r rhyw sydd yn well gennych. Mae hyn oherwydd bod newid eich nodweddion rhyweddol neu seicolegol eraill yn broses bersonol yn hytrach nag un fegyddol. Gallwch fod mewn unrhyw gam eich proses trosi – o fwriadu i ailbennu eich rhywedd i ymgymryd â phroses i ailbennu eich rhywedd, neu wedi’i gwblhau.

Dywed y Ddeddf Cydraddoldeb fod rhaid i chi beidio â chael eich gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd:

  • Ailbennu eich rhywedd yn berson trawsrywiol. Efallai bod y disgrifiad person trawsryweddol neu wryw neu fenyw draws yn well gennych. Caiff ystod eang o bobl eu cynnwys yn y termau ‘traws’ neu ‘drawsrywedd’ ond ni chewch eich diogelu fel person trawsryweddol heblaw eich bod yn bwriadu newid eich rhyw neu wedi gwneud hynny. Er enghraifft, mae grŵp o ddynion ar noson stag sy’n gwisgo gwisgoedd ffansi fel menywod yn cael eu gwahardd rhag mynd i mewn i le bwyta. Nid ydynt yn drawsrywiol ac felly ni chânt eu diogelu rhag gwahaniaethu.
  • Mae rhywun o’r farn eich bod yn drawsrywiol, er enghraifft oherwydd eich bod yn achlysurol yn traws wisgo neu’n amrywio o ran rhywedd. Gwahaniaethu ar sail canfyddiad yw hyn.
  • Eich bod yn gysylltiedig â pherson drawsrywiol, neu rywun sy’n cael ei ganfod yn anghywir fel person trawsrywiol. Gwahaniaethu drwy gysylltiad yw hyn.

Ni ddiogelir pobl ryng-rywiol yn benodol rhag gwahaniaethu gan y Ddeddf, ond rhaid i chi beidio â chael eich gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhywedd neu rywedd canfyddedig.

Er enghraifft, os gwrthodir mynediad i fenyw â chyflwr ryng-rywiol i bwll nofio i fenywod yn unig oherwydd bod y gweision yn meddwl mai dyn yw hi, gallai hyn fod yn wahaniaethu ar sail rhyw neu wahaniaethu ar sail anabledd.


Beth yw gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd?

Pan gewch eich trin yn wahanol oherwydd eich bod yn drawsrywiol, o ran un o’r sefyllfaoedd a gwmpesir gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gallai’r driniaeth fod unwaith ac am byth neu o ganlyniad i reol neu bolisi. Nid oes rhaid iddo fod yn fwriadol i fod yn anghyfreithlon.

Mae rhai amgylchiadau pan fo triniaeth wahaniaethol oherwydd ailbennu rhywedd yn gyfreithlon, ac fe’u heglurir isod.


Mathau gwahanol o wahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd

Mae pedwar math o wahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd.

Gwahaniaethu uniongyrchol

Digwydd hyn pan fo rhywun yn eich trin yn waeth na pherson arall mewn sefyllfa debyg oherwydd eich bod yn drawsrywiol.

  • Er enghraifft, rydych yn dweud wrth eich cyflogwr eich bod yn bwriadu byw gweddill eich bywyd fel rhywedd gwahanol. Mae eich cyflogwr, yn erbyn eich dymuniad, yn eich trosglwyddo o’ch rôl oherwydd i’ch rhwystro rhag ymgysylltu â chleientiaid.

Absenoldeb o’r gwaith

Os ydych yn absennol o’r gwaith oherwydd ailbennu’ch rhywedd, ni all eich cyflogwr eich trin yn waeth na’r ffordd y byddech yn cael eich trin pe baech i ffwrdd:

  • oherwydd salwch neu anaf. Er enghraifft, ni all eich cyflogwr dalu tâl llai i chi na’r tâl fyddech wedi’i gael pe baech i ffwrdd oherwydd salwch.
  • oherwydd rhyw reswm arall. Fodd bynnag yn yr achos hwn, ni fydd yn wahaniaethu oni bai i’ch cyflogwr weithredu’n afresymol. Er enghraifft, pe bai’ch cyflogwr yn cytuno i gais am amser o’r gwaith i rywun fynychu seremoni graddio ei blentyn/phlentyn, byddai eich gwrthod rhag cael amser i ffwrdd ar gyfer rhan o’ch proses ailbennu rhywedd yn afresymol. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, amser i ffwrdd ar gyfer cwnsela.

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Digwydd gwahaniaethu anuniongyrchol pan fo gan sefydliad bolisi neu ffordd o weithio penodol sy’n rhoi pobl drawsrywiol o dan anfantais.

Weithiau gellir caniatáu gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail ailbennu rhywedd os gall y sefydliad neu’r cyflogwr ddangos bod rheswm da am y gwahaniaethu. Gelwir hyn yn gyfiawnhad gwrthrychol.

  • Er enghraifft mae awdurdod iechyd lleol yn penderfynu na fydd yn ariannu mewnblaniadau bron. O ganlyniad mae’r awdurdod iechyd yn gwrthod darparu’r driniaeth hon i fenyw sy’n ymgymryd ag ailbennu rhywedd er ei bod yn ystyried ei fod yn hanfodol iddi edrych yn fwy benywaidd. Mae’r un polisi yn berthnasol i bob menyw ond yn gosod pobl drawsrywiol o dan anfantais fwy. Efallai gall yr awdurdod iechyd gyfiawnhau ei bolisi os gall brofi fod ganddo resymau cyfreithlon.

Aflonyddu

Pan fo rhywun yn eich cywilyddio, tramgwyddo neu ddiraddio oherwydd eich bod yn drawsrywiol, aflonyddu ydyw.

  • Er enghraifft mae menyw drawsrywiol yn cael diod mewn tafarn gyda ffrindiau. Mae’r landlord yn ei galw’n ‘Syr’ a ‘fe’ wrth iddi brynu diod, er iddi gwyno wrtho am hyn.

Ni ellir cyfiawnhau aflonyddu, fyth. Fodd bynnag, os gall sefydliad neu gyflogwr ddangos ei fod wedi gwneud popeth a allai i atal pobl sy’n gweithio iddi rhag ymddwyn yn y fath fodd, ni allwch wneud hawliad am aflonyddu yn ei erbyn, er gallech wneud hawliad yn erbyn y tramgwyddwr.

Erledigaeth

Pan gewch eich trin yn wael oherwydd i chi gwyno am wahaniaethu sy’n gysylltiedig ag ailbennu rhywedd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gall ddigwydd hefyd os ydych yn cefnogi rhywun sydd wedi cwyno am wahaniaethu sy’n gysylltiedig ag ailbennu rhywedd.

  • Er enghraifft, caiff person trawsrywiol ei aflonyddu gan gydweithwyr yn y gwaith. Mae’n cwyno am y ffordd y mae ei gydweithwyr yn ei drin a chaiff ei ddiswyddo.

Amgylchiadau pan fo triniaeth wahanol oherwydd ailbennu rhywedd yn gyfreithlon

Gallai gwahaniaeth mewn triniaeth fod yn gyfreithlon:

  • Mae sefydliad yn cymryd camau cadarnhaol i annog neu feithrin pobl drawsrywiol i gymryd rhan mewn rôl neu weithgarwch y maent wedi’u tangynrychioli ynddi neu wedi’u rhoi o dan anfantais.
  • Mae’r amgylchiadau yn perthyn i un o eithriadau’r Ddeddf sy’n caniatáu sefydliadau i ddarparu triniaeth neu wasanaethau gwahanol.
  • Chwaraeon cystadleuol: Mae sefydliad chwaraeon yn cyfyngu cyfranogiad oherwydd ailbennu rhywedd. Er enghraifft, mae trefnwyr digwyddiad triathlon i fenywod yn penderfynu gwahardd menyw draws. Maent o’r farn y byddai’i chryfder yn rhoi mantais annheg iddi. Fodd bynnag, byddai angen i’r trefnwyr ddangos mai hyn yw’r unig ffordd i wneud y digwyddiad yn deg i bawb.
  • Mae darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaethau un rhyw. Os ydych yn cael mynediad i wasanaeth a ddarperir i ddynion yn unig neu i fenywod yn unig, dylai’r sefydliad sydd yn ei ddarparu eich trin chi yn unol â’ch rhywedd caffaeledig. Mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn mae’n gyfreithlon i sefydliad ddarparu gwasanaeth gwahanol neu wrthod y gwasanaeth i rywun sy’n ymgymryd ag ailbennu rhywedd neu wedi ymgymryd ag ef.

Gwybodaeth bellach

Os ydych yn meddwl eich bod efallai wedi cael eich trin yn annheg ac rydych am gyngor pellach, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Rhadffôn 0808 800 0082

Ffôn testun 0808 800 0084

Neu ysgrifennu atynt i

Freepost Equality Advisory Support Service FPN4431

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd wedi llunio canllaw cyfreithiol ar y Ddeddf Cydraddoldeb.

Last Updated: 19 Hyd 2015