Canllaw i ddarparwyr gwasanaeth
Canllaw i ddarparwyr gwasanaeth ynglŷn â’u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
Un o gyfres yw’r canllaw hwn a ysgrifennodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i egluro beth sy’n rhaid i chi ei wneud i gyflawni gofynion cyfraith cydraddoldeb. Mae’r canllawiau hyn yn ategu Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Ddeddf hon yn dwyn ynghyd lawer o gyfreithiau cydraddoldeb gwahanol, llawer ohonynt wedi bod gennym am amser maith. Drwy wneud hyn, mae cyfraith cydraddoldeb yn symlach ac yn haws i’w deall yn sgil y Ddeddf.
Sylwer: mae’r Comisiwn ar hyn o bryd yn adolygu a diweddaru ei holl ganllawiau anstatudol er mwyn adlewyrchu newidiadau diweddar yn y gyfraith.
- Beth mae cyfraith cydraddoldeb yn ei golygu i'ch cymdeithasfa, clwb neu gymdeithas
- Beth mae cyfraith cydraddoldeb yn ei golygu i'ch busnes wrth ichi ddarparu gwasanaeth, cyfleuster neu nwyddau i'r cyhoedd
- Beth mae cyfraith cydraddoldeb yn ei golygu i'ch sefydliadau sector gwirfoddol a chymunedol (gan gynnwys elusennau a sefydliadau crefydd neu gred)
- Eich cyfrifoldebau wrth gyflenwi gwasanaethau
- Pan fyddwch chi'n gyfrifol am yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud
- Y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i gael gwared â rhwystrau i bobl anabl
- Beth i wneud pan fydd rhywun yn dweud wrthych ei fod wedi dioddef gwahaniaethu
Last Updated: 27 Awst 2014