Beth i’w wneud os bydd rhywun yn dweud y gwahaniaethwyd yn eu herbyn

Os bydd cwsmer, cleient, defnyddiwr gwasanaeth, aelod, aelod cysylltiol neu westai yn credu eich bod chi (neu, os oes gennych rywun arall yn gweithio i chi, eich gweithiwr neu asiant) wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn eu herbyn, eu haflonyddu neu erlid yn groes i gyfraith cydraddoldeb parthed y nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau, neu swyddogaethau cyhoeddus yr ydych yn eu darparu, fe allant:

  • Gwyno’n uniongyrchol i chi.
  • Defnyddio rhywun arall i’w helpu i ddatrys y sefyllfa (datrysiad anghydfod amgen).
  • Gwneud hawliad mewn llys.

Nid yw’r rhain yn ddewisiadau amgen, gan y gall y sawl sy’n cwyno fynd â’r gŵyn i’r llys o hyd, hyd yn oed os ydynt wedi cwyno i chi yn gyntaf a/neu ddefnyddio rhywun arall i geisio datrys y mater.

Mae’r rhan hwn o’r canllaw yn:

  • edrych ar sut y gallwch ddatrys y sefyllfa os byddant yn cwyno’n uniongyrchol i chi
  • rhoi gwybod ichi ble i ddod o hyd i wybodaeth am ddatrysiad anghydfod amgen (gallwch awgrymu hyn heb aros i’r sawl sy’n cwyno ei awgrymu)
  • esbonio’r weithdrefn gwestiynau, y gall rhywun ei defnyddio i gael mwy o wybodaeth gennych os ydynt yn credu y gwahaniaethwyd yn anghyfreithlon yn eu herbyn, eu haflonyddu neu eu herlid
  • esbonio rhai pwyntiau allweddol am drefniadau llys mewn achosion gwahaniaethu o ran hawliadau y tu allan i’r gweithle:
  • ble y dygir hawliadau
  • cyfyngiadau amser i wneud hawliad
  • safon a baich prawf
  • beth gall y llys eich gorchymyn i’w wneud
  • ble i gael mwy o wybodaeth am amddiffyn achos llys.

Last Updated: 28 Awst 2014