Cytundeb ffurfiol gyda Chyngor Hinckley a Bosworth

Mae’r Comisiwn wedi croesawu’r camau y mae Cyngor Bwrdeistref Hinckley a Bosworth wedi eu gweithredu, i greu rhwyd diogelwch gryfach i ddiogelu pobl anabl rhag troseddau casineb, yn dilyn marwolaeth drasig Fiona Pilkington a’i merch ddifrifol o anabl saith mlynedd yn ôl.

Canfu cwest i’r marwolaethau ddwy flynedd yn ddiweddarach ddiffygion diogelwch cymunedol ar ran amryw o awdurdodau cyfrifol yr oedd y teulu yn byw yn eu rhanbarth. Derbyniodd yr awdurdod lleol eu diffygion a threfnodd cytundeb ffurfiol â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i edrych o’r newydd ar ei bolisïau a’i weithdrefnau i’r perwyl o gael gwared ag aflonyddu ar sail anabledd a hybu agweddau cadarnhaol tuag at bobl anabl.

Roedd telerau’r cytundeb yn cynnwys penodi archwilydd annibynnol ag arbenigedd ym maes troseddau casineb i asesu mewn perthynas â’r achos yr hyn roedd angen i Hinckley a Bosworth ei wneud i wella diogelwch cymunedol.

Yn sgil adroddiad a chynllun gweithredu cafwyd menter bwysig i greu cynllun ‘canol tref ddiogelach’. Mae hyn yn darparu mannau lle gall pobl mewn sefyllfaoedd bregus droi atynt os ydynt yn dioddef erledigaeth neu aflonyddu. Mae Hinckley a Bosworth, hefyd, yn gweithio i hybu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth well o droseddau casineb yn y gymuned.

Mae’r Cyngor yn cydnabod bod angen gwneud mwy, yn enwedig o ran gwella ei ymgysylltu â grwpiau o bobl ag anableddau dysgu. Mae nifer o feysydd, hefyd, lle mae gwaith dilynol yn parhau mewn partneriaeth â Heddlu Caerlŷr a Chyngor Sirol Swydd Gaerlŷr fel yr argymhellwyd gan Ymchwiliad y Comisiwn i Droseddau Casineb ar sail Anabledd.

Last Updated: 11 Rhag 2015