Cyfleoedd Caffael

Bydd y dudalen hon yn dangos wrth ddarpar gyflenwyr a phartïon â diddordeb y wybodaeth ynglŷn â materion yn ymwneud â chafaeliad a chyfleoedd contract i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol na ellir eu cael drwy ein trefniadau fframwaith neu gontract cyfredol.

Rydym yn anelu i gydbwyso ansawdd a chost yn erbyn y ffordd orau o ateb gofynion y defnyddiwr. I gadw’r broses yn deg, rydym yn caffael drwy gystadleuaeth pryd bynnag y bo hynny’n bosib, ac mewn nifer o ffyrdd yn dibynnu ar raddfa a natur y nwyddau neu wasanaethau sydd eu heisiau.

Bydd dogfennau’n berthnasol i hysbysebion ar gyfer cyfleoedd ar gael yn yr adran hon, bydd angen i chi eu lawr lwytho, a’u cadw yn eich maes eich hunan a’u cwblhau. Cyfeiriwch â’r manylion sydd o fewn hysbysiadau contract a dogfennau penodol am fanylion ar sut i ateb.

Ni ystyrir cynigwyr os na fydd unrhyw ran o’r wybodaeth a ofynnwyd amdano ar gael gyda’r cynnig neu mae’r tender fel arall heb ateb y gofynion neu heb ei gwblhau.

Rhaid i chi beidio â newid unrhyw un o ddogfennau Gwahoddiad i Dendro’r Comisiwn.

Dylai ddarpar gyflenwyr fod yn ymwybodol y byddan nhw’n rhwymedig i ddyletswyddau cydraddoldeb y Comisiwn pe gwobrwyir contract iddynt gan y Comisiwn.

Derbyn cynigion

Dylech nodi :

  • Rydym yn cadw’r hawl i beidio â derbyn y cynnig isaf, neu unrhyw gynnig.
  • Heblaw i chi wneud unrhyw osodiad ffurfiol i’r gwrthwyneb, rydym yn cadw’r hawl i dderbyn unrhyw ran o’r cynnig heb y gweddill.
  • Bydd derbyniad cynnig/gwobrwyo contract drwy neges ysgrifenedig oddi wrthym.

Last Updated: 08 Awst 2014