Pwyllgor Anabledd a Deddf Cydraddoldeb 2010
Sesiwn tystiolaeth lafar y Comisiwn gyda’r Pwyllgor Anabledd a Deddf Cydraddoldeb 2010
Gorffennaf 2015
Rhoddodd y Farwnes O'Neill o Bengarve, Cadeirydd, yr Arglwydd Holmes o Richmond, Comisiynydd Anabledd, a Rebecca Hilsenrath, Prif Swyddog Cyfreithiol (bellach yn Brif Weithredwr) y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol dystiolaeth i’r pwyllgor fel rhan o’u hymchwiliad i ystyried effaith Deddf Cydraddoldeb 2010 ar bobl ag anableddau ac adrodd arno.
Tystiolaeth ysgrifenedig atodol y Comisiwn i’r Pwyllgor Anabledd a Deddf Cydraddoldeb 2010
Awst 2015
Yn ystod sesiwn tystiolaeth lafar y Comisiwn gyda’r pwyllgor, ymgymeron i ddarparu tystiolaeth bellach yn ysgrifenedig ar nifer o faterion:
- Rhai cymariaethau o gyllidebau ac effeithiolrwydd y Comisiwn Hawliau Anabledd (cyn 2007) gyda’r gyllideb bresennol a gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
- Bylchau yn y gyfraith – gwelliannau arfaethedig y Comisiwn i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys rhai sylwadau ar ddarpariaethau a gafodd eu deddfu ond heb eu rhoi mewn grym
- Sylwadau ar drafodaethau ar Godau Ymarfer Statudol arfaethedig y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Rhai cymariaethau rhwng gofynion ac effeithiau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
- Rhai sylwadau ar effeithiau dileu’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gan bobl yn y Gweithgor yn ymwneud â Gwaith
- Crynodeb o ddeilliannau diweddaraf ein Hymchwiliad i Aflonyddu ar sail Anabledd
- Enghreifftiau o achosion cyfreithiol y mae’r Comisiwn wedi ymyrryd ynddynt neu’u cefnogi sydd wedi effeithio’n arwyddocaol ar bobl anabl
Darllen ein cyflwyniad ysgrifenedig
Tystiolaeth ysgrifenedig y Comisiwn i'r Pwyllgor
Medi 2015
Darparodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol dystiolaeth ysgrifenedig ar y cwestiynau a amlinellwyd yng ngalwad y Comisiwn am dystiolaeth ysgrifenedig. Yn y cyflwyniad hwn, amlinella’r Comisiwn y gwaith a gyflawnodd wrth gefnogi amcanion Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys cyfreitha strategol a llunio canllawiau. Mae’r Comisiwn yn amlygu sut y gellir gweithredu’r Ddeddf yn well, yn benodol drwy weithredu’i darpariaethau’n llawn ac ailosod darpariaethau a gafodd eu diddymu. Mae’r Comisiwn yn galw ar ddwyn bob agwedd o gydraddoldeb a hawliau dynol dan awdurdodaeth adran sengl y llywodraeth; pwerau newydd a fyddai’n galluogi’r Comisiwn i orfodi’r Ddeddf yn fwy effeithiol, ac adolygiad cynhwysfawr o fynediad at gyfiawnder mewn achosion gwahaniaethu.
Darllen ein cyflwyniad ysgrifenedig llawn.
Llythyr y Comisiwn i’r Pwyllgor Anabledd a Deddf Cydraddoldeb 2010
Rhagfyr 2015
Croesawodd y Comisiwn y cyfle i ymateb i faterion a godwyd gyda’r pwyllgor drwy gydol ei sesiwn tystiolaeth. Mae’r ymateb hwn yn canolbwyntio ar y Pwyllgor Anabledd, y llinell gymorth ac asesiadau effaith cronnus.
Darllen llythyr y Comisiwn i'r Pwyllgor
Last Updated: 13 Ion 2016