Gwahaniaethu ar sail Anabledd

Dywed Deddf Cydraddoldeb 2010 fod rhaid i chi beidio â chael eich gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd:

  • Bod anabledd gennych.
  • Mae rhywun yn meddwl bod anabledd penodol gennych. Gwahaniaethu drwy ganfyddiad yw hyn.
  • Rydych yn gysylltiedig â rhywun ag anabledd. Gwahaniaethu drwy gysylltiad yw hyn.

Yn y Ddeddf Cydraddoldeb mae anabledd yn golygu cyflwr corfforol neu feddyliol sydd ag effaith sylweddol a hir dymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Cewch eich cynnwys gan y Ddeddf hefyd os oes cyflwr cynyddgar gennych fel HIV, cancr a sglerosis ymledol, hyd yn oed os ydych ar hyn o bryd yn gallu ymgymryd â gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Cewch eich diogelu cyn gynted ag y bo diagnosis yn dangos bod cyflwr cynyddgar gennych.

Cewch eich cynnwys yn y Ddeddf os oedd anabledd gennych yn y gorffennol.

  • Er enghraifft, os oedd cyflwr iechyd meddwl gennych yn y gorffennol a oedd wedi parhau am fwy na chyfnod 12 mis, ond rydych bellach wedi gwella, rydych yn dal yn cael eich diogelu rhag gwahaniaethu oherwydd yr anabledd hwnnw.

Nid yw’r Ddeddf yn diogelu pobl nad ydynt yn anabl rhag gwahaniaethu. Felly nid gwahaniaethu yw trin person anabl yn fwy ffafriol na rhywun nad yw’n anabl neu rywun nad oes yr un anabledd ganddi/ganddo.

  • Er enghraifft, os yw cyflogwr yn penderfynu cynnig prentisiaeth i fyfyriwr anabl. Ni allai pobl a oedd eisiau’r cyfle i fod yn brentis ond nid ydynt yn anabl hawlio eu bod wedi’u gwahaniaethu yn eu herbyn.

Beth yw gwahaniaethu ar sail anabledd?

Pan gewch eich trin yn wahanol oherwydd eich anabledd mewn un o’r sefyllfaoedd a gwmpesir gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gall y driniaeth fod yn weithred unwaith ac am byth neu o ganlyniad i reol neu bolisi. Nid oes rhaid iddo fod yn fwriadol i fod yn anghyfreithlon.


Mathau gwahanol o wahaniaethu ar sail anabledd

Mae chwe phrif fath o wahaniaethu ar sail anabledd.

Gwahaniaethu uniongyrchol

Digwydd hyn pan fo rhywun yn eich trin yn waeth na pherson arall mewn sefyllfa debyg oherwydd eich anabledd.

  • Er enghraifft, yn ystod cyfweliad, mae ymgeisydd swydd yn dweud wrth rai cyflogwyr bod sglerosis ymledol ganddo. Mae’r cyflogwyr yn penderfynu peidio â’i benodi er mai ef yw’r ymgeisydd gorau y maent wedi’i gyfweld, oherwydd maent yn tybio y bydd angen llawer o absenoldeb salwch arno.

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Digwydd gwahaniaethu anuniongyrchol pan fo gan sefydliad bolisi neu ffordd benodol o weithio sy’n effeithio’n waeth ar bobl sy’n rhannu eich anabledd mewn cymhariaeth â phobl nad ydynt.

  • Er enghraifft, mae cyflogwr yn gofyn i bob ymgeisydd swydd i ddefnyddio porth recriwtio ar-lein. Nid yw’r porth yn hygyrch i bobl a nam ar eu golwg ac ni allwch ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin gydag ef. Oni bai fod y cyflogwr yn cynnig ffyrdd gwahanol i ymgeiswyr wneud cais, gwahaniaethu anuniongyrchol fyddai hyn.

Gellir caniatáu gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail anabledd os gall y sefydliad neu’r cyflogwr ddangos fod rheswm da i’r polisi. Cyfiawnhad gwrthrychol yw hyn.

Methiant i wneud addasiadau rhesymol

O dan y Ddeddf mae gan gyflogwyr a sefydliadau gyfrifoldeb i sicrhau y gall pobl anabledd gael mynediad i swyddi, addysg a gwasanaethau yr un mor hawdd â phobl nad ydynt yn anabl. Y ‘ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol’ yw hyn.

Gall pobl anabl brofi gwahaniaethu os na fydd y cyflogwr neu’r sefydliad yn gwneud addasiad rhesymol. ‘Methiant i wneud addasiad rhesymol’ yw hyn.

  • Er enghraifft, mae cyflogai â nam symudedd angen man parcio sy’n agos i’r swyddfa. Serch hynny, dim ond i uwch reolwyr y mae ei chyflogwr yn darparu mannau parcio iddynt ac mae’n gwrthod rhoi man parcio penodedig iddi.

Mae’r hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys pa mor fawr yw’r sefydliad sy’n gwneud yr addasiad. Os oes gan sefydliad nifer o fannau parcio eisoes byddai’n rhesymol iddo ddynodi man parcio yn agos i’r fynedfa i’r cyflogai.

Gwahaniaethu yn codi o anabledd

Mae’r Ddeddf hefyd yn diogelu pobl rhag gwahaniaethu yn codi o anabledd. Mae hyn yn eich diogelu rhag cael eich trin yn wael oherwydd rhywbeth sy’n gysylltiedig â’ch anabledd, megis bod â chi cymorth neu angen amser o’r gwaith ar gyfer apwyntiadau meddygol. Nid yw hyn yn gymwys oni bai fod y person a wnaeth y gwahaniaethu yn eich erbyn yn gwybod fod anabledd gennych neu dylai wybod hynny.

  • Er enghraifft, mae meithrinfa breifat yn gwrthod neilltuo lle i fachgen bach oherwydd nad yw wedi dysgu eto sut i fynd i’r toiled. Dywedodd ei rieni wrthynt mai’r rheswm am hynny oedd bod Clefyd Hirschsprung ganddo, ond maent yn dal yn gwrthod lle iddo. Gwahaniaethu yn codi o anabledd y bachgen bach yw hyn.
  • Er enghraifft, pan fo cyflogwr yn y gweithle yn gwahardd yn awtomatig unrhyw gyflogai a lefel uchel o absenoldeb salwch ganddi/ganddo rhag cael bonws.

Ond os gall y sefydliad neu’r cyflogwr ddangos bod rheswm da am y ffordd y mae’n eich trin, yna ni fydd yn wahaniaethu yn codi o anabledd.

Aflonyddu

Digwydd aflonyddu pan fo rhywun yn eich trin mewn ffordd sydd yn eich cywilyddio, tramgwyddo neu ddiraddio.

  • Er enghraifft, mae cydweithwyr yn y gwaith yn rhegi at ac yn galw enwau ar fenyw anabl yn rheolaidd oherwydd ei hanabledd.

Ni ellir cyfiawnhau aflonyddu, fyth. Fodd bynnag, os gall sefydliad neu gyflogwr ddangos ei fod wedi gwneud popeth a all i atal pobl rhag ymddwyn yn y fath fodd, ni allwch wneud hawliad yn ei erbyn, er y gallwch wneud hawliad yn erbyn y tramgwyddwr.

Erledigaeth

Pan gewch eich trin yn wael oherwydd eich bod wedi cwyno am wahaniaethu yn gysylltiedig ag anabledd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gall ddigwydd hefyd os ydych yn cefnogi rhywun sydd wedi cwyno am wahaniaethu yn gysylltiedig ag anabledd.

  • Er enghraifft, mae cyflogai wedi cwyno am wahaniaethu ar sail anabledd. Mae cyflogwr yn bygwth ei ddiswyddo oni bai iddo dynnu ei gwyn yn ôl.

Beth arall y mae’r Ddeddf yn fy niogelu rhagddo?

Cwestiynau am iechyd a ofynnir i chwynnu ymgeiswyr swydd anabl.

Dywed y Ddeddf na all cyflogwyr holi ymgeiswyr swydd ynglŷn â’u hiechyd neu anabledd tan gynigir swydd iddynt oni bai fod rhai eithriadau’n gymwys.

  • Er enghraifft, mae ymgeisydd swydd yn llenwi ffurflen gais sy’n gofyn i bobl ddweud os ydynt ar unrhyw feddyginiaeth. Oni bai fod rheswm da dros wybod yr wybodaeth hon, ni ddylai’r cyflogwr ofyn y cwestiwn.

Am wybodaeth bellach ar hyn gweler ein canllaw ar gwestiynau iechyd cyn cyflogaeth.

Amgylchiadau pan fo trin rhywun yn wahanol ar sail anabledd yn gyfreithlon. Mae gan y Ddeddf rai eithriadau sy’n caniatau i gyflogwyr neu sefydliadau wahaniaethu ar sail anabledd. Gofyniad galwedigaethol yw hyn sy’n golygu y gall cyflogwr benodi fod rhaid i rywun fod â nodwedd warchodedig benodol er mwyn gwneud y swydd. Fodd bynnag, mae rhaid i’r cyflogwr ddangos bod angen ddilys amdani.


Gwybodaeth bellach

Os ydych yn meddwl eich bod efallai wedi cael eich trin yn annheg ac rydych am gyngor pellach, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Rhadffôn 0808 800 0082

Ffôn testun 0808 800 0084

Neu ysgrifennu atynt i

Freepost Equality Advisory Support Service FPN4431

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd wedi llunio canllaw cyfreithiol ar y Ddeddf Cydraddoldeb.

Last Updated: 19 Hyd 2015