Gweledigaeth a chenhadaeth

Ein mandad

Rhoddodd y Senedd fandad i’r Comisiwn i herio gwahaniaethu, a diogelu a hybu hawliau dynol.

Ein gweledigaeth

Rydyn ni wedi ymroddi i’r weledigaeth o Brydain fodern lle caiff pawb eu trin ag urddas a pharch, a lle mae gennym oll gyfle cyfartal i lwyddo.

Ein cenhadaeth

Catalydd er newid a gwelliant o ran cydraddoldeb a hawliau dynol.

Ein swyddogaethau

  • Rheoleiddiwr strategol yn canolbwyntio ar ganlyniadau
  • Hyrwyddwr safonau ac arfer dda
  • Canolfan gwybodaeth ac arloesedd awdurdodol
  • Partner dibynadwy.

Cynllun Strategol 2012-2015

Cyhoeddwyd ein cynllun strategol cyfredol ar 27 Mawrth 2012. Darganfyddwch ragor ynghylch ein cynllun strategol 2012-2015.


Beth rydym yn ei wneud a sut a wnawn ef: cylch gwaith y Comisiwn.

Corff Cyhoeddus Anadrannol yw’r Comisiwn, a sefydlwyd yn gorff corfforaethol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Ein hadran noddi yw Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth. Mae gennym fwrdd o Gomisiynwyr sy’n llywio gwaith a chyfeiriad y Comisiwn.

Ymunodd nifer o’r rhai oedd yn gweithio i’r Comisiynau cydraddoldeb blaenorol â’r Comisiwn newydd, gan greu corff â chyfoeth helaeth o brofiad a gwybodaeth am wahaniaethu a chydraddoldeb hil, rhyw ac anabledd. Mae llawer o bobl ers hynny wedi ymuno â’r Comisiwn - arbenigwyr ym maes cyfeiriadedd rhywiol, oed, crefydd a chred a hawliau dynol, a phobl â sgiliau a phrofiad yn yr holl swyddogaethau perthnasol.

Ble rydym ni’n gweithio

Mae’r Comisiwn yn cwmpasu Prydain Fawr h.y. Cymru, Lloegr a’r Alban, ond nid Gogledd Iwerddon. Mae swyddfeydd gennym yng Nghaerdydd, Llundain, Manceinion, Glasgow a Chaeredin, a phresenoldeb rhanbarthol drwy 9 swyddfa yn Lloegr. Am fanylion ar sut i gysylltu â ni, ewch i’r dudalen hon.

Dogfen Fframwaith y Comisiwn

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi dogfen fframwaith newydd sy’n amlinellu’i berthynas â’r llywodraeth a sut mae’n gweithredu fel Corff Hyd Fraich annibynnol (ALB).

Lluniwyd y ddogfen fframwaith mewn partneriaeth â’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yr adran sy’n noddi’r Comisiwn. Lluniwyd hi i gydweddu â darpariaeth Deddf Cydraddoldeb 2006, sy’n diogelu annibyniaeth weithredol y Comisiwn.

Mae’r ddogfen yn rhoi manylion am sut mae’r Comisiwn yn gweithredu ym maes rheolaethau gwario, recriwtio ac ateb cwestiynau seneddol. A hyn mewn modd sy’n sicrhau ei fod yn gallu cyflawni’i swyddogaethau statudol wrth aros yn gwbl atebol am ei berfformiad corfforaethol a’i ddefnydd o arian cyhoeddus.

Darllen y ddogfen fframwaith (Yn Saesneg)
Darllen y ddogfen egwyddorion cyffredinol (Yn Saesneg)
Darllen y llythyr gan y Gweinidog Menywod a Chydraddoldeb (Yn Saesneg)

Last Updated: 10 Tach 2014