Telerau defnyddio

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n rheoli’r wefan hon. Trwy ddefnyddio’r safle rydych chi’n derbyn y telerau a’r amodau canlynol.

Deunydd cynghori – nid cyngor cyfreithiol

Diben y wefan hon yw rhoi gwybodaeth gyffredinol ac nid yw wedi’i bwriadu i fod yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol neu gyngor proffesiynol arall. Rhaid ystyried unrhyw hawliad unigol ar sail ei ffeithiau a’i amgylchiadau unigol yn sgil y wybodaeth sydd ar gael. Nid oes unrhyw ddau hawliad yn union yr un fath, ac mae rhai meysydd o’r gyfraith yn parhau’n ansicr - nid yw canlyniad llwyddiannus i un achos yn sicrhau canlyniad llwyddiannus i un arall. Dylech ofyn am gyngor cyfreithiol penodol mewn perthynas ag unrhyw fater arbennig. Cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb os ydych am gyngor ar sefyllfa arbennig, neu i gael eich cyfeirio at rywun a all roi cyngor cyfreithiol pellach i chi.

Dolenni i wefannau eraill

Rydym yn cynnwys dolenni i nifer o wefannau allanol lle bo’n briodol er mwyn cynorthwyo defnyddwyr i gael gafael ar fwy o wybodaeth berthnasol. Fodd bynnag, ni all y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sicrhau pa mor ddibynadwy yw’r dolenni hynny na pha mor gywir yw’r wybodaeth ar wefannau sefydliadau eraill. Nid yw dolen o’n gwefan ni i wefan arall yn golygu ein bod yn cymeradwyo’r sefydliad hwnnw na’i wybodaeth.

Diogelu rhag feirysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a threialu deunydd gydol y broses gynhyrchu. Doeth o beth bob amser yw rhoi’r holl ddeunydd sy’n cael ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd trwy raglen gwrthfeirysau a gwrthysbïwedd. Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw golled, ymyrraeth neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd tra’n defnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.

Ymwadiad

Er y gwneir cryn ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir a chyfoes, gallu cyfyngedig sydd gan wefan i gyfleu cymhlethdodau gwybodaeth o natur gyfreithiol, polisi neu drefniadol. Nid yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gwneud unrhyw sylwadau neu warantiadau, boed yn ddatganedig neu’n ymhlyg, ynglŷn â chywirdeb y wybodaeth ar y wefan hon na’i haddasrwydd ar gyfer unrhyw ddiben. Ni fydd y Comisiwn yn gyfrifol ar unrhyw gyfrif am unrhyw iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol arbennig neu ganlyniadol sy’n deillio o ddefnyddio’r wybodaeth sydd ar y wefan hon.

Last Updated: 04 Meh 2009