Pan mae darparwr gwasanaethau yn gyfrifol am yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud

Nid yn unig y bobl sy’n gyfrifol am sefydliadau sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau i’r cyhoedd neu sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus ddylai osgoi gwahaniaethu anghyfreithiol, aflonyddu ac erledigaeth.

Os yw unigolyn arall sy’n:

  • cael ei gyflogi gan ddarparwr gwasanaethau, neu’n
  • cyflawni cyfarwyddiadau darparwr gwasanaethau i wneud rhywbeth (yr hyn mae’r gyfraith yn ei alw’n asiant y darparwr gwasanaethau)

yn gwneud rhywbeth sy’n wahaniaethu anghyfreithiol, aflonyddu neu erlid, gellir dal y darparwr gwasanaethau yn gyfrifol o dan y gyfraith am yr hyn y maent wedi’i wneud.

Mae rhan hon y canllaw yn egluro:

  • Pryd y gellir dal darparwr gwasanaethau yn gyfrifol o dan y gyfraith am wahaniaethu anghyfreithiol, aflonyddu neu erlid gan rywun arall
  • Sut y gall darparwr gwasanaethau leihau’r risg y’i delir yn gyfrifol o dan y gyfraith
  • Pryd y gall gweithwyr a gyflogir gan y darparwr gwasanaethau neu gan asiantiaid y darparwr gwasanaethau fod yn atebol yn bersonol
  • Beth sy’n digwydd os yw unigolyn yn cyfarwyddo i rywun arall wneud rhywbeth sydd yn erbyn cyfraith cydraddoldeb
  • Beth sy’n digwydd os yw unigolyn yn helpu rhywun arall i wneud rhywbeth sydd yn erbyn cyfraith cydraddoldeb
  • Beth sy’n digwydd os yw darparwr gwasanaethau yn ceisio atal cyfraith cydraddoldeb rhag bod yn berthnasol i sefyllfa.

Rhagor o wybodaeth

Last Updated: 28 Hyd 2014