Adroddiad newydd yn datgelu bod cannoedd o hyd yn marw yn eu lleoliadau cadw

Yn ôl adroddiad newydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mae diwylliant parhaus o gyfrinachedd, defnydd sâl o wasanaethau iechyd meddwl arbenigol a diffyg ymchwiliadau annibynnol o ansawdd uchel wedi cyfrannu at gannoedd o farwolaethau annaturiol mewn lleoliadau cadw’n gaeth.

Ers 2014, mae dros 225 o bobl sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn carchardai, ysbytai seiciatrig a chelloedd yr heddlu – llawer ohonyn nhw a chyflyrau iechyd meddwl ganddyn nhw – wedi marw o achosion annaturiol yng Nghymru a Lloegr. Pan gaiff ffigurau 2015 i ysbytai seiciatrig eu cyhoeddi hefyd, gallai’r nifer terfynol fod yn gryn dipyn yn uwch.

Mae gwaith dadansoddi newydd y Comisiwn yn cydnabod bod rhai gwelliannau wedi eu gwneud o ran cadw pobl yn gaeth yng nghelloedd yr heddlu, ysbytai a charchardai. Bu gostyngiad, sydd i’w groesawu, yn nifer y bobl sy’n cael eu cadw yng nghelloedd yr heddlu fel noddfa a bu gostyngiad hefyd yn nifer marwolaethau cleifion a oedd yn cael eu cadw mewn ysbytai seiciatrig. Mae’r Comisiwn wedi nodi bod newidiadau cadarnhaol wedi eu rhoi ar waith i ddarparu cymorth gwell i garcharorion â chyflyrau iechyd meddwl.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon. Mae’r cynnydd wedi bod yn ddarniog ac mae diogelwch yn y carchardai yn ofid mawr. Oherwydd y dirywiad yn y lefelau diogelwch, a’r trais cynyddol, mae nifer marwolaethau annaturiol carcharorion yn codi o flwyddyn i flwyddyn. Roedd 84 o farwolaethau annaturiol yn 2013 a gododd i 98 yn 2014 ac yna i 104 yn 2015.

Dengys yr adroddiad hefyd fod rhaid gwneud mwy i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol mewn carchardai a bod diffyg gwybodaeth, megis ar farwolaethau carcharorion ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r carchar, yn rhwystro’r cynnydd ar leihau hunan-niwed, anafiadau a marwolaethau. Mater allweddol i ysbytai yw sicrhau bod ymchwiliadau annibynnol yn cael eu cynnal i farwolaethau cleifion sy’n cael eu cadw’n gaeth. O ran defnyddio celloedd yr heddlu, mae diffyg swyddogion iechyd meddwl proffesiynol mewn rhai ardaloedd yn arwain at oedi o ran asesiadau iechyd meddwl. Mae angen brys i fynd i’r afael ag ef.

Mae’r adroddiad heddiw yn dilyn ymchwiliad gan y Comisiwn a gafodd ei gyhoeddi y llynedd ac mae’n darparu dadansoddiad ac argymhellion newydd i daclo’r problemau a gododd. Mae’r rhain yn cynnwys galw am newid yn y gyfraith i sicrhau bod ysbytai seiciatrig, carchardai a heddluoedd yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu i fynd i’r afael ag argymhellion ymchwiliadau ac arolygon; a galw ar ysbytai seiciatrig i archwilio p’un ai a yw ymchwiliadau annibynnol yn cael eu cynnal i farwolaethau annaturiol cleifion sy’n cael eu cadw’n gaeth a chadarnhau bod yr ymchwiliadau o ansawdd digonol.

Canfyddiadau/argymhellion allweddol eraill yw:

  • Dylai carchardai gyhoeddi data fel mater o drefn ar ddefnydd ataliaeth gorfforol yn ogystal â data ar y nifer o garcharorion â chyflyrau iechyd meddwl.
  • Ni ddylai carcharorion â chyflyrau iechyd meddwl gael eu gwahanu.
  • Dylid cynnwys teuluoedd yn y broses ymchwilio a’u cefnogi i helpu sicrhau y gellir dysgu gwersi i atal marwolaethau yn y dyfodol.
  • Dylai’r hawl i fywyd fod yn ganolog wrth lunio polisïau, gweithdrefnau ac ymchwiliadau i farwolaethau pobl mewn lleoliadau cadw.

Meddai’r Athro Swaran Singh, Comisiynydd y Comisiwn ar farwolaethau oedolion wrth eu cadw’n gaeth:

“Mae’r methiant i wneud cynnydd o ran gostwng marwolaethau y gellir eu hosgoi yn staen cenedlaethol na ddylem ei oddef mwyach mewn cymdeithas wareiddiedig fodern.

"Wrth i’r wladwriaeth gadw pobl yn gaeth dros eu lles eu hunain neu ddiogelwch eraill, mae ganddi lefel uchel iawn o gyfrifoldeb i sicrhau diogelwch eu bywydau, ac mae hwnnw’n her arbennig o ran pobl â chyflyrau iechyd meddwl. Bu’r cynnydd mor araf fel ein bod wedi gweld nifer uchel o achosion trasig yn y ddwy flynedd ddiwethaf lle na chyflawnwyd y cyfrifoldeb hwnnw.

“Mae diwylliant difäol o gyfrinachedd a beio yn rhwystro’r cynnydd sydd ei angen mor enbyd. Mae’r prinder cynnydd hwn yn drychinebus, rydym fel petai yn mynd am yn ôl o ran rhai meysydd, tra bo marwolaethau y gellir eu hosgoi yn parhau i gynyddu.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Last Updated: