Adroddiad newydd yn datgelu bod y bobl fwyaf difreintiedig yn y gymdeithas yn colli fwy o dir

Mae grwpiau mwyaf difreintiedig Lloegr wedi cael eu gadael ymhellach ar eu hôl hi na gweddill y boblogaeth ac mewn perygl o gael eu cloi allan yn fwyfwy rhag manteisio ar gyfleoedd, yn ôl adroddiad newydd pwysig gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Dadansoddiad manwl yw Is England Fairer o sut mae cydraddoldeb a hawliau dynol pobl wedi eu gwireddu mewn gwirionedd dros y pum mlynedd ddiwethaf. Dengys fod y bwlch wedi agor rhwng cyfleoedd bywyd ystod o grwpiau - pobl ddigartref, y rheini ag anableddau dysgu, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, mudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Dengys hefyd sut mae anghydraddoldeb wedi hen galedu’n fwyfwy.

Yn aml bydd pobl o’r grwpiau hyn yn wynebu anfanteision lluosog gan gynnwys deilliannau sâl o ran cyrhaeddiad addysgol a chyflogaeth a rhwystrau rhag cael gofal iechyd. Mae llawer o ffactorau a allai gyfrannu at hyn, gan gynnwys amddifadedd, bod yn anweledig yn gymdeithasol, stigma a stereoteipio. Mae’r sefyllfa’n cael ei gwaethygu gan ddiffyg tystiolaeth ar brofiadau’r grwpiau hyn, sydd yn ei gwneud yn anodd dadansoddi’r broblem a mynd i’r afael â hi. Mae hyn hefyd yn eu cuddio nhw a’u problemau oddi ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn pennu blaenoriaethau a llywio gwasanaethau.

Mae’r sefyllfa hon yn debygol o greu fwy o annhegwch ac allgau cymdeithasol yn ogystal â pheryglu cydlyniad cymunedol. Dyna pam yr ydym yn gofyn i’r Llywodraeth a chyrff statudol weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r canfyddiadau allweddol yn yr adroddiad a darparu cymorth dwysach i’r grwpiau mwyaf difreintiedig hyn.

Mae canfyddiadau allweddol o’r adroddiad yn cynnwys:

Sipsiwn, Roma a Theithwyr

  • Mae cryn gorgynrychiolaeth o Sipsiwn, Roma neu Deithwyr mewn carchardai – enwodd 4% o boblogaeth carchardai eu hunain fel Sipsiwn, Roma neu Deithwyr, gan mai dim ond 0.1% o’r boblogaeth a enwodd eu hunain felly yng nghyfrifiad 2011.
  • Cyflawnodd canran sylweddol is o blant Sipsiwn a Roma (13.8%) a phlant Teithwyr (17.5%) drothwy’r TGAU yn 2012/13 o’i gymharu â phlant eraill Gwyn (60.3%).
  • Mae plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr o hyd yn bedair i bum gwaith yn fwy tebygol o gael eu heithrio o’r ysgol nag eraill ar gyfartaledd yn genedlaethol, hyd yn oed er cwymp arwyddocaol yn y rhifau. Roedd 35.8 y 1,000 o ddisgyblion a gafodd eu heithrio o’r ysgol yn y cymunedau hyn yn Lloegr – gostyngiad o 13.9 o achosion y 1,000 o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Pobl ddigartref

  • Defnyddiodd pobl ddigartref wasanaethau ysbyty rhwng tair gwaith a chwe gwaith yn amlach na’r boblogaeth yn gyffredinol. Dengys data diweddar fod ymweliadau yr unigolyn i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn bedair gwaith yn uwch na’r cyhoedd yn gyffredinol.
  • Ar gyfartaledd 48 yw’r oedran y mae pobl ddigartref yn marw o’i gymharu â 74 oed i’r boblogaeth yn gyffredinol. I fenywod digartref 43 oed yw o’i gymharu ag 80 i’r boblogaeth yn gyffredinol.

Pobl ag anableddau dysgu

  • Ar lefel TGAU, mae plant ag Anghenion Addysg Arbennig (AAA) yn parhau i dangyflawni o’u cymharu â’u cymheiriaid. Roedd plant ag AAA yn llai tebygol o gyflawni o leiaf pum gradd A*-C TGAU (23.4%) o’u cymharu â phlant heb AAA (70.4%).
  • Mae gan bobl ag anableddau dysgu gyfraddau uwch o gael eu derbyn i’r ysbyty – 76 derbyniad i bob 1,000 o oedolion o’i gymharu â 15 derbyniad y 1,000 o oedolion heb anableddau dysgu.
  • Mae’r gyfradd marwolaeth i bobl ag anableddau dysgu cymedrol i ddifrifol yn dair gwaith yn uwch nag i’r boblogaeth yn gyffredinol.

Mudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches

  • Mae 2.64 miliwn o’r gweithwyr mudol sy’n cael eu caniatáu’n gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig i’w cael yn bennaf mewn swyddi sgiliau a chyflog isel. Mae galwedigaethau sgiliau isel yn cyfrif am 45% o’r holl gyflogaeth yn y DU, gyda mudwyr yn cyfrif am oddeutu 16% o bawb sydd mewn swyddi sgiliau isel (2.1million).
  • Gall gweithwyr mudol fod yn arbennig o agored i ddioddef cam-fanteisio a gwahaniaethu oherwydd na chaiff eu statws mudol ei ddiogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Golyga hyn na allent geisio cyfiawnder drwy’r llysoedd pan gânt eu gwahaniaethu oherwydd eu statws mudol.

Meddai Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Mae’r ffigurau hyn yn ysgytwad i’r Llywodraeth i wella cyfleoedd bywyd i bawb fel na chaiff neb ei adael ar ôl. Maent yn dangos pa mor ddifrifol yw’r anghydraddoldebau y mae rhai o’r grwpiau mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas yn eu hwynebu.

“Mae ein cymdeithas yn methu pobl mewn sefyllfaoedd bregus ac mae angen gwneud rhagor i sicrhau bod pawb yn cael cyfleoedd gwell yn eu bywydau. Os na wnawn ni, rydym mewn perygl o barhau â chymdeithas dwy haen lle caiff rhai pobl eu cloi allan neu eu ymwahanu’n bellach, gan niweidio cydlyniad cymunedol a chynyddu ynysu cymdeithasol.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Adroddiadau Is England Fairer

Last Updated: