Achosion cyfreithiol
Yn yr adran hon, cewch ddiweddariadau gan dîm cyfreithiol y Comisiwn ar ddatblygu meysydd yn y gyfraith. Mae’n cynnwys pob maes y gyfraith ar wahaniaethu a hawliau dynol.
Tachwedd 2013
Bull and Bull v Preddy and Hall (yn Saesneg)
Mae’r Goruchaf Lys wedi gwrthod apêl gan y perchnogion gwesty, Peter a Hazelmary Bull, a oedd wedi gwrthod caniatáu i gwpl hoyw aros mewn ystafell wely dwbl yr oeddent wedi’i neilltuo iddynt yn y gwesty.
Gorffennaf 2013
Mae’r Comisiwn wedi ymateb i ymgynghoriad Swyddfa Gydraddoldeb y Llywodraeth ar fanylion archwiliadau cyflog cyfartal, ac ar gynhwysion rheoliadau y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno yn 2014.
Mehefin 2013
North v Dumfries and Galloway Council (Y Goruchaf Lys) (yn Saesneg)
Dros chwe blynedd ers i 251 o fenywod godi eu hawliadau am gyflog cyfartal yn erbyn Cyngor Dumfries a Galloway, mae’r Goruchaf Lys wedi ategu eu hawl i gymharu eu telerau a’u hamodau â dynion sydd hefyd yn gweithio i’r Cyngor ond mewn gweithleoedd gwahanol. Cafodd y dyfarniad ei gyhoeddi gan yr apelyddion; undeb llafur, UNISON, fel un ‘hanesyddol’ ac maent yn crybwyll y bydd dros 2,000 o fenywod yn rhannu amcangyfrif o £12 miliwn mewn iawndal. Mae Laura Hutchison, Uwch Swyddog Gorfodi, y Comisiwn yn yr Alban yn bwrw golwg ar y dyfarniad.
R (Catt) v Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (Llys Apél) (yn Saesneg)
Mae Katy Reade, uwch gyfreithiwr yn y Comisiwn, yn archwilio dyfarniad y Llys Apel o ran R (Catt). Mae’r achos yn ymwneud â phwerau’r heddlu i gasglu a chadw gwybodaeth bersonol am aelodau’r cyhoedd sy’n mynychu gwrthdystiadau cyhoeddus cyfreithlon.
Mawrth 2013
Rowstock v Jessemey – erledigaeth wedi gadael swydd (yn Saesneg)
Diweddariad ar ganfyddiadau EAT – ac apel arfaethedig i’r Llys Apel – mewn achos yn ymwneud ag erledigaeth ar ôl gadael swydd.
Diweddariadau cyfreithiol 2007 - 2012 (yn Saesneg)
Last Updated: 11 Maw 2014