Deddf Priodas (Cyplau o'r un ryw) 2013: Canllaw cyflym

Deddf Priodas (Cyplau o'r un ryw) 2013: Canllaw cyflym

Mae Deddf Priodas (Cyplau o’r Un Ryw) 2013 yn ymestyn priodas i gyplau o’r un ryw yng Nghymru a Lloegr. Mae’r canllaw hwn yn egluro sut mae’r Ddeddf yn effeithio ar awdurdodau cyhoeddus pan maen nhw’n arfer eu swyddogaethau. Mae’r ddogfen hon yn ddefnyddiol i lywodraeth ganolog a lleol, carchardai, ysbytai, sefydliadau addysgol ac unrhyw sefydliad arall sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus.

Mae hawliau o dan gyfraith cydraddoldeb yn diogelu yn erbyn gwahaniaethu ac aflonyddu anghyfreithlon yn seiliedig ar amryw o nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol ac ailbennu rhyw. Hefyd mae cyfraith hawliau dynol yn darparu diogelwch yn erbyn gwahaniaethu o ran mwynhau hawliau penodol, ac yn diogelu’r hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd, rhyddid i ymgasglu a rhyddid mynegiant. Mae ein canllaw cydgysylltiedig ar briodas a’r gyfraith yn cwmpasu’r hawliau hyn yn fanylach.

Last Updated: Thursday, June 26, 2014 - 15:07

Average: 5 (1 vote)