Cynllun Cyhoeddi

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl i’r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus ac mae’n gofyn i awdurdodau sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael. Bwriad y Ddeddf yw rhoi mwy o amlygrwydd i waith cyrff cyhoeddus, i sicrhau bod prosesau llunio polisïau yn deg, yn ddemocrataidd ac yn agored. Gallwch ganfod rhagor am y Ddeddf ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae’r Ddeddf yn gofyn i bob awdurdod cyhoeddus lunio Cynllun Cyhoeddi sy’n pennu dosbarthiadau gwybodaeth y mae’r awdurdod cyhoeddus yn eu cyhoeddi neu’n bwriadu eu cyhoeddi. I gydymffurfio â’r Ddeddf, mae’r Cynllun Cyhoeddi yn amlinellu:

  • yr wybodaeth y bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei rhyddhau, wedi’i gategoreiddio yn ôl natur y wybodaeth
  • sut mae cael gafael ar yr wybodaeth.

Ym mis Mai 2008 cyhoeddodd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ganllaw ar gynlluniau cyhoeddi model newydd y mae awdurdodau cyhoeddus wedi’u hannog i’w mabwysiadu o 1 Ionawr 2009. Mae’r Comisiwn wedi mabwysiadu’r cynllun model perthnasol.

Y dosbarthiadau gwybodaeth a ddiffinnir yn y canllaw newydd yw:

  • Pwy ydym ni a beth ‘rydym yn ei wneud
  • Yr hyn yr ydym yn ei wario a sut
  • Beth yw ein blaenoriaethau a pha mor llwyddiannus ydym
  • Sut ‘rydym yn gwneud penderfyniadau
  • Ein polisïau a’n gweithdrefnau
  • Rhestrau a chofrestri
  • Y gwasanaethau ‘rydym yn cyflenwi

Os na allwch ganfod yr wybodaeth yr ydych yn ei geisio neu am wneud cais rhyddid gwybodaeth, cysylltwch â [email protected]

Lawr lwytho ein Cynllun Cyhoeddi

Gweler hefyd:

Last Updated: 08 Awst 2014